Thomas Charles o r Bala
143 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Thomas Charles o'r Bala , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
143 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Dyma gyfrol gyfansawdd sy’n trafod cyfraniad Thomas Charles o’r Bala (1755-1814) i fywyd Cymru ar achlysur daucanmlwyddiant ei farw. Yn ffrwyth yr ymchwil ddiweddaraf gan ddeuddeg arbenigwr yn y maes, mae’n rhychwantu’r holl feysydd bu Charles yn ymwneud â nhw: addysg, crefydd, llythrennedd, ysgolheictod, geiriaduraeth a diwylliant. Sonnir hefyd am waddol artistig Thomas Charles, y cysylltiad a fu rhyngddo â’r emynyddes Ann Griffiths ac â Mari Jones a gerddodd i’r Bala i gyrchu Beibl ganddo, ei berthynas â chyfoeswyr fel Thomas Jones o Ddinbych, a’i le yn natblygiadau gwleidyddol ei gyfnod. Un o benseiri’r Gymru fodern oedd Thomas Charles ac ef, yn ôl Derec Llwyd Morgan, oedd ‘Tad i foneddigeiddrwydd y werin Gristionogol Gymraeg’. Dyma gyfrol a fydd wrth fodd calon haneswyr diwylliant a beirniaid llên, a’r gwaith manylaf ar Thomas Charles i’w gyhoeddi ers canrif a mwy.

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juillet 2014
Nombre de lectures 0
EAN13 9781783162246
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 2 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0450€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

T HOMAS C HARLES O’R B ALA
Thomas Charles o’r Bala
Golygwyd gan
D. Densil Morgan


Gwasg Prifysgol Cymru
Caerdydd
2014
Hawlfraint Y Cyfranwyr, 2014
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogop o, recordio, nac fel arall, heb ganiat d ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru,10 Rhodfa Columbus, Maes Brigant n, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-7831-6068-6 e-ISBN 978-1-78316-224-6
Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl foesol i w cydnabod yn awduron ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
C YNNWYS

Rhagymadrodd
Rhestr Darluniau
Rhestr Byrfoddau
Nodiadau ar Gyfranwyr
1 Gyrfa Thomas Charles yn ei chyd-destun hanesyddol
Eryn Mant White
2 Thomas Charles, llythrennedd a r Ysgol Sul
Huw John Hughes
3 Thomas Charles a sefydlu Cymdeithas y Beibl
R. Watcyn James
4 Thomas Charles a r Ysgrythur
Geraint Lloyd
5 Nid baich ond y baich o bechod : Geiriadur Ysgrythyrol Thomas Charles
Dafydd Johnston
6 Thomas Charles a gwleidyddiaeth y Methodistiaid
Marion L ffler
7 Gwaddol artistig Thomas Charles
Martin O Kane
8 Thomas Charles, Ann Griffiths a Mary Jones
E. Wyn James
9 Pob peth yn cydweithio er daioni : Cofiant . . . Thomas Charles (1816)
Llion Pryderi Roberts
10 Thomas Charles a Thomas Jones o Ddinbych (1756-1820)
Andras Iago
11 Thomas Charles a r Bala
D. Densil Morgan
12 Thomas Charles: Tad i foneddigeiddrwydd y werin Gristionogol Gymraeg
Derec Llwyd Morgan
Llyfryddiaeth Ddethol

R HAGYMADRODD
Cynnyrch cynhadledd a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gampws Llanbedr Pont Steffan adeg y Pasg 2013 yw r penodau sy n dilyn. Menter ar y cyd rhwng y Brifysgol a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth ydoedd gyda nawdd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Anelwyd at dafoli o r newydd gyfraniad Thomas Charles o r Bala at ein hanes mewn pryd ar gyfer dathlu daucanmlwyddiant ei farw yn 2014. Gwelir o r gyfrol fod y cyfraniad hwnnw n un sylweddol dros ben.
O i gymharu tho cyntaf y diwygwyr Methodistaidd, Howell Harris, Daniel Rowland a Williams Pantycelyn, ychydig sydd wedi i ysgrifennu yn ddiweddar ar fywyd a gwaith Thomas Charles. Cafwyd cofiant tair cyfrol helaeth gan D. E. Jenkins, Dinbych, dros ganrif yn l sy n ffynhonnell anhepgor i bob ymchwilydd o hyd ac yn arweiniad diogel i r maes yn gyffredinol. Ar wah n i ambell gyfraniad pwysig, yn neilltuol ysgrifau R. Tudur Jones a i gyfrol fechan Gwas y Gair a Chyfaill Cenedl yn y 1970au (ynghyd a thraethawd doethuriaeth anghyhoeddedig Medwin Hughes), ni fu cyfraniad Charles yn destun myfyrdod gan haneswyr crefydd a diwylliant na beirniaid ll n. Rhoddwyd sylw newydd a gwreiddiol iddo gan haneswyr celf, Peter Lord yn arbennig, yn y 1990au, tra bo r cyfrolau sy n nodi daucanmlwyddiant ordeinio 1811 a roes fod i Gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd Cymreig, sef Eryn M. White ac eraill, The Elect Methodists: Calvinistic Methodism in England and Wales, 1735-1811 (2012), a J. Gwynfor Jones (gol.), Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, Cyfrol III: Y Twf a r Cadarnhau (c.1814-1914) (2011) wedi sbarduno diddordeb ynddo fel ffigur amlycaf yr ymwahanu oddi wrth Eglwys Loegr. Hon, fodd bynnag, fydd y gyfrol ehangaf ei rhychwant ar y gwrthrych i w chyhoeddi ers degawdau lawer.
Fel y gwelir o r tudalennau sy n dilyn, bu Thomas Charles yn allweddol mewn amryw byd o symudiadau o bwys hanesyddol mawr. Ef oedd addysgydd pwysicaf Cymru er dyddiau Griffith Jones, Llanddowror, ac fel hyrwyddwr effeithiolaf mudiad yr ysgolion Sul, sicrhaodd ledaeniad llythrennedd ymhlith gwerin ddifantais a thlawd. O r Beibl y daeth ei ysbrydoliaeth bennaf, a bu n greiddiol yn natblygiad y Feibl Gymdeithas nid yn unig yng Nghymru ond ymhell y tu hwnt, ym Mhrydain a thramor. Roedd ei Eiriadur enwog yn gyfraniad swmpus at eiriaduraeth Gymraeg yn gyffredinol yn ogystal ag at ysgolheictod Beiblaidd a diwinyddol, tra bod ei amddiffyniad o r Methodistiaid mewn cyfnod o gynnwrf politicaidd a thwf radicaliaeth wedi sicrhau lle iddo yn natblygiad gwleidyddiaeth Cymru yn ogystal i chrefydd. Er mai r gair oedd ei ddewis gyfrwng, trwy bregethu, hyfforddi a llenydda, mae r ddelwedd weledig ohono o waith artistiaid fel Hugh Hughes a ledaenwyd mor helaeth trwy wasg gyfnodol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi sicrhau lle iddo yn nychymyg gweledig y Cymry fel yn eu diwylliant ysbrydol a deallusol. Erbyn 1814 prin bod modd osgoi dylanwad Thomas Charles ar fywyd ei bobl.
Serch iddo ddylanwadu ar eraill yn fawr, nid ef oedd y mudiad Methodistaidd. Bu n cydweithio n agos Thomas Jones o Ddinbych, yr unig un o i gyfoeswyr a oedd i w gymharu ag ef o ran praffter ymenyddol ac ehangder dysg, tra bod ei gysylltiad r emynyddes Ann Griffiths ac Mary Jones a gyrchodd ato i brynu Beibl, heb s n am y gefnogaeth aruthrol a gafodd gan Sally Jones o r Bala, a ddaeth yn wraig iddo, yn ein hatgoffa (a bod angen ein hatgoffa) o gyfraniad aruthrol merched i r mudiad diwygiadol cyfoes. G r o sir Gaerfyrddin oedd Charles er ymgartrefu ohono yn y Bala a chael ei gysylltu n annatod ag enw r dref, a thrwy ei lafur yno daeth yn gyfrwng i glymu de a gogledd ynghyd. Bu r unoliaeth honno n bwysig odiaeth mewn mudiad a fyddai n cyfrannu mor helaeth at dwf yr ymwybyddiaeth genedlaethol maes o law. Ac ni ddarfu ei ddylanwad yno gyda i farw yn 1814. I r Bala daeth y Lewis Edwards ifanc yn 1836 a phriodi Jane Charles, ei wyres, a sefydlu coleg yno, a dychwelyd i r Bala o Aberystwyth a wnaeth Thomas Charles Edwards hanner canrif yn ddiweddarach yn bennaeth y coleg, wedi sicrhau fod seiliau r brifysgol genedlaethol newydd yn ddiogel. Dyn cenedl oedd Thomas Charles ac un o benseiri Cymru egn ol y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac nid ychydig o r ugeinfed ganrif hefyd.
Ymgais yw r penodau nesaf i ddisgrifio, dadansoddi a chyflwyno cyd-destun i bob un o r agweddau hyn, ac eraill yn ogystal. Gwneir hynny yng ngoleuni r ysgolheictod diweddaraf ac yn l canonau r consensws academaidd cyfoes. Rwy n ddiolchgar eithriadol i r awduron am eu parodrwydd i gyfrannu at y fenter. Roedd y gynhadledd a roes fod i r papurau gwreiddiol yn achlysur hynod gyfoethog o ran cyfnewid barn a goleuo n gilydd, ac mae r penodau gorffenedig yn elwach o r trafodaethau hynny. Ysgafnodd fy nghydweithiwr Geraint Lloyd fy maich yn ddirfawr trwy gyfieithu pennod yr Athro Martin O Kane.
Gobeithio bydd y gyfrol hon yn deilwng o goffadwriaeth un o Gymry mawr y ddeunawfed ganrif a r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn gyfraniad at waddol ddiwylliannol y Gymru newydd yn ogystal.

D. Densil Morgan
Llanbedr Pont Steffan
G yl Ddewi 2014

R HESTR D ARLUNIAU
Ffigwr 1: Thomas Charles (1875). William Davies, Capel Tegid, Bala. Hawlfraint y llun: Martin Crampin.

Ffigwr 2: Y Parch. Thomas Charles ( c .1838). Bailey yn l Hugh Hughes. Engrafiad a gyhoeddwyd gan Robert Saunderson, y Bala. Hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffigwr 3: Mam a i Dwy Ferch (1848). Olew ar gynfas. Hawlfraint Casgliad Preifat.

Ffigwr 4: Thomas Charles yn trosglwyddo i Feibl i Mari Jones . T. H. Thomas, o r gyfrol Echoes from the Welsh Hills (1883). Hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffigwr 5: Wynebddalen cyfrol David Davies, Echoes from the Welsh Hills (1883). T. H. Thomas. Hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffigwr 6: John Elias yn pregethu yn Sasiwn y Bala. Lithograff lliw (1892). Hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Ffigwr 7: Cloc Capel ( c .1898). Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth. Hawlfraint y llun: Martin Crampin.

R HESTR B YRFODDAU

Bywg. R. T. Jenkins a J. E. Lloyd (goln), Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Llundain: 1953). CCH Cylchgrawn Cymdeithas Hanes Eglwys Bresbyteraidd Cymru. CHC Cylchgrawn Hanes Cymru. Cofiant Thomas Jones, Cofiant, neu Hanes Bywyd a Marwolaeth y Parch. Thomas Charles (Bala: 1816). Cynnydd Gomer M. Roberts (gol.), Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, Cyfrol II: Cynnydd y Corff (Caernarfon: 1978). Deffroad Gomer M. Roberts, Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru, Cyfrol I: Y Deffroad Mawr (Caernarfon: 1973). Gwas R. Tudur Jones, Thomas Charles o r Bala: Gwas y Gair a Chyfaill Cenedl (Caerdydd: 1979). Life , I D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles B.A. of Bala , I (Denbigh: 1908, ail arg. 1910). Life , II D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles B.A. of Bala, II (Denbigh: 1908, ail arg. 1910). Life , III D. E. Jenkins, The Life of the Rev. Thomas Charles B.A. of Bala, III (Denbigh: 1908, ail arg. 1910). LLGC Llyfrgell Genedlaethol Cymru. THSC Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion. Twf J. Gwynfor Jones (gol.), Hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Cyfrol III: Y Twf a r Cadarnhau (c.1814-1914) (Caernarfon: 2011).

N ODIADAU AR G YFRANWYR
Cyn-ddarlithydd yn y Coleg Normal ac Ysgol Addysg Prifysgol Bangor yw Huw John Hughes. Enillodd ei ddoethuriaeth (Prifysgol Bangor, 2011) ar astudiaeth o dwf a datblygiad yr Ysgol Sul a gyhoeddwyd fel Coleg y Werin: Hanes yr Ysgol Sul yng Nghymru rhwng 1780 ac 1851 (2013).

Graddiodd Andras Iago mewn Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth a bellach mae n ddarlithydd yn Ysgol Diwinyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ac Astudiaethau Islamaidd Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, campws Caerfyrddin, o dan gynllun y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Athro yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol Caerdydd yw E. Wyn James, a chyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America. Ef yw golygydd Rhyfeddaf Fyth: Emynau a Llythyrau Ann Griffiths (1998) ac mae n awdur toreth o ysgrifau a phenodau ar l n y Methodistiaid. Ef yw golygydd Gwefan Ann Griffiths a Gwefan Baledi Cymru.

Cyn-gyfarwyddwr Cymreig Cymdeithas y Beiblau yw R. Watcyn James. Enillodd ei ddoethuriaeth (Prifysgo

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents