Diwinyddiaeth Paul
248 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Diwinyddiaeth Paul , livre ebook

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
248 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Cyflwynir yma holl syniadaeth athrawiaethol yr Apostol Paul a’i gefndir meddyliol mewn un bennod ar ddeg, ynghyd â swmp y farn ysgolheigaidd ddiweddaraf ar y pwnc. Trafodir perthynas yr Apostol â Iesu; cefndir syniadol Paul; natur ei dröedigaeth a’I alwad apostolaidd, a’i ddealltwriaeth o natur y ddeddf Iddewig; ei syniadaeth am iachawdwriaeth a Pherson Crist; ei ddealltwriaeth o natur y bod dynol a gwaith yr Ysbryd ynddo ac arno; dysgeidiaeth foesegol yr Apostol; ei syniadaeth am yr eglwys; ei farn am eschatoleg a’r ‘Pethau Diwethaf’; a chyfraniad y llythyrau yr amheir gan rai mai Paul oedd eu hawdur. Mae’r gyfrol yn unigryw fel yr ymdriniaeth lwyraf eto yn y Gymraeg ar y maes hwn; mae’n amlygu ysgolheigion o Gymry, yn arbennig C. H. Dodd a W. D. Davies, dau ysgolhaig Cymreig byd-eang eu dylanwad i astudiaethau Paulaidd.


Rhagarweiniad
Byrfoddau
1. Paul ac Iesu
2. Bywyd Cynnar yr Apostol Paul a’i Gefndir Meddyliol
3. Tröedigaeth neu Alwad?
4. Paul a’r Gyfraith
5. Soterioleg Paul
6. Cristoleg Paul
7. Anthropoleg Paul a’r Ysbryd yn Llythyrau Paul
8. Dysgeidiaeth Foesol Paul
9. Yr Eglwys yn Paul
10. Eschatoleg Paul
12. Y Llythyrau Diweddar a’r Epistolau Bugeiliol
Llyfryddiaeth
Mynegai

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 01 mars 2020
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786835338
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 5 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,1150€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

DIWINYDDIAETHPAUL
Diwinyddiaeth Paul Gan Gynnwys Sylw Arbennig i’w Ddehonglwyr Cymreig
gan
John Tudno Williams
Gwasg Prifysgol Cymru 2020
Hawlfraint © John Tudno Williams, 2020
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 9781786835321 eISBN 9781786835338
Datganwyd gan John Tudno Williams ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cysodwyd gan Eira Fenn Gaunt, Pentyrch, Caerdydd. Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Melksham.
Cyflwynir y gyfrol hon i Ina ac i Haf a Tomos Gwyn a’u teuluoedd, gan ddiolch am eu cariad a’u cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd.
Rhagarweiniad Byrfoddau
 1 Paul ac Iesu
CYNNWYS
 2 Bywyd Cynnar yr Apostol Paul a’i Gefndir Meddyliol
 3 Tröedigaeth neu Alwad?
 4 Paul a’r Gyfraith
 5 Soterioleg Paul
 6 Cristoleg Paul
 7 Anthropoleg Paul a’r Ysbryd yn Llythyrau Paul
 8 Dysgeidiaeth Foesol Paul
 9 Yr Eglwys yn Paul
10 Eschatoleg Paul
12 Y Llythyrau Diweddar a’r Epistolau Bugeiliol
Llyfryddiaeth Mynegai
ix xiii
1
17
27
49
63
99
125
139
159
171
183
193 227
RHAGARWEINIAD
Daeth y Ddarlith Davies i fodolaeth yn 1894 pan gyfrannodd Thomas Davies o Bootle swm o arian er cof am ei dad, David Davies, er mwyn sefydlu darlith i’w thraddodi’n flynyddol gan weinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ei Chymanfa Gyffredinol. Cefais innau’r fraint o gael fy ngwahodd i draddodi’r Ddarlith Davies yn 1993 yn y Gymanfa a gynhaliwyd y flwyddyn honno yng Ngholeg Westhill, Birmingham, a hynny wedi bron i ganrif o’r darlithoedd hyn. Roeddwn yn ymwybodol iawn o fod mewn olyniaeth anrhyd eddus, a charwn ychwanegu mai dyma’r ail dro, hyd y gwn i, ifab ddilyn ei dad yn yr olyniaeth honno, gan i fy nhad draddodi ei ddarlith union ddeng mlynedd ynghynt. Y tro cyntaf i hynny ddigwydd oedd pan fu i’r Parchedig Huw Wynne Griffith draddodi darlith 1978 wedi i’w dad, y Parchedig G. Wynne Griffith, wneud yn 1942. Yn sicr, nid dyma’r tro cyntaf i’r Apostol Paul fod yn destun y Ddarlith Davies. Ym Mhorthmadog yn 1921 traddododd John Williams arall, y digymar bregethwr o Frynsiencyn, ddarlith yn dwyn y teitl ‘Hanes yr Apostol Paul ac Athrawiaeth yr Iawn’. Dr Thomas Charles Williams a lywyddai ar yr achlysur hwnnw, ac roedd David 1 Lloyd George yn eistedd yn y sêt fawr. Cyhoeddwyd crynswth y ddarlith wedi’i golygu gan William Morris, a chyda rhagair gan ei gofiannydd, R. R. Hughes, yn 1955. Roedd gan Dr John Williams rywbeth i’w ddweud o dan ryw bedwar pennawd: cefndir meddyliol yr apostol; ei dröedigaeth; dysgeidiaeth Paul a’r lesu; ac athrawiaeth yr iawn. Yn fy narlith wreiddiol, ni ddilynais yr union drywydd ag ef; yn hytrach, ceisiais daflu cipdrem ar rai o’r prif lwybrau a ddilynwyd yn ystod y deng mlynedd a thrigain ers traddodi darlith Dr John Williams gan
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents