Cristnogaeth a Gwyddoniaeth
149 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Cristnogaeth a Gwyddoniaeth , livre ebook

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
149 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Dyma’r unig ymdriniaeth ddiweddar yn y Gymraeg o rai o’r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Gristnogol gan wyddoniaeth gyfoes: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i’r ddealltwriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau’r bydysawd? A all Cristnogion barhau i gyffesu yng ngeiriau’r Credo, ‘Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear’? Ac a fedrant goleddu’r Ffydd Apostolaidd a ddatguddiwyd drwy’r Ysgrythurau ac a gyffesir gan draddodiad Cristnogol y canrifoedd? Os gellir cyffesu’r ffydd hon o hyd, sut y mae ei dehongli heddiw, yn wyneb gwybodaeth gyfoes am darddiad y bydysawd, am siawns a chynllun, am Darwin a geneteg, am fiodechnoleg ac ecoleg? Mae deiliaid ‘yr atheistiaeth newydd’ yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl – cred sicr awduron y gyfrol hon, fodd bynnag, yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod dealltwriaeth o’r naill yn cyfoethogi’n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma i’n galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy’n tarddu yn ei fwriad a’i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy’n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw.


Rhagarweiniad
Pennod 1: Edrych yn ôl: rhai trobwyntiau hanesyddol
Pennod 2: Gwyddoniaeth a diwinyddiaeth: rhai seiliau athronyddol
Pennod 3: Y Glec Fawr, y cread a Duw
Pennod 4: Siawns, cynllun ac anghenraid
Pennod 5: Darwin, DNA a Duw
Pennod 6: Biotechnoleg a datblygiadau meddygol
Pennod 7: Y natur ddynol
Pennod 8: Glendid maith y cread: Cristnogion a’r amgylchedd
Pennod 9: Credwn yn Nuw
Llyfryddiaeth Ddethol
Cyfeiriadaeth

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 25 mai 2017
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786831279
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 2 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0650€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

CrisTnogaeTH a GwyddoniaeTH
CrisTnogaeTH a GwyddoniaeTH
Noel A. Davies a T. Hefin Jones
Gwasg Prifysgol Cymru 2017
Hawlfraint © Noel A. Davies a T. Hefin Jones, 2017
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigantîn, Caerdydd CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig. ISBN 9781786831262 eISBN 9781786831279
Datganwyd gan yr awduron eu hawl foesol i’w cydnabod yn awduron hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cyhoeddir gyda chymorth ariannol Cyngor Llyfrau Cymru ac
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Cysodwyd yng Nghymru gan Eira Fenn Gaunt, Caerdydd
Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Melksham
Rhagarweiniad Yr Awduron
Cynnwys
1 Edrych yn Ôl: Rhai Trobwyntiau Hanesyddol
2 Gwyddoniaeth a Diwinyddiaeth: Rhai Seiliau  Athronyddol
3 Y Glec Fawr, y Cread a Duw
4 Siawns, Cynllun ac Anghenraid
5 Darwin, DNA a Duw
6 Biotechnoleg a Datblygiadau Meddygol
7 Y Natur Ddynol
8 Glendid Maith y Cread: Cristnogion a’r Amgylchedd
9 Credwn yn Nuw
Llyfryddiaeth Ddethol Cyfeiriadaeth Mynegai
vii xiii
1
1
2
1
9
47
5
7
6
8
7
1
91
101
113 117 131
RHagarweiniad
Amcan y gyfrol hon yw cyflwyno, yn y Gymraeg, astudiaeth o rai o’r cwestiynau cymhleth a heriol a godir i ddiwinyddiaeth Grist nogol gan wyddoniaeth gyfoes. Gwelwyd datblygiadau cyffrous ym mhob maes o wyddoniaeth yn ystod yr ugeinfed ganrif a’r unfed ganrif ar hugain. Yn aml iawn, cododd y datblygiadau hyn gwestiynau moesol astrus i’n cymdeithas. Amcan y gyfrol hon, fodd bynnag, fydd helpu’r darllenydd i ystyried y cwestiynau diwinyddol: sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol ymateb i’r ddeall twriaeth lawnach a dyfnach sydd gennym bellach am darddiad, datblygiad a phrosesau’r bydysawd? A all Cristnogion ddal i gyff esu yng ngeiriau’r Credo, ‘Credwn yn Nuw, y Tad Hollalluog, Creawdwr nefoedd a daear’? A fedrant goleddu’r Ffydd Apostol aidd a ddatguddiwyd yn yr Ysgrythurau ac a gyffesir gan dradd odiad Cristnogol y canrifoedd, sef, i Dduw ddod yn ddyn yn Iesu, iddo gael ei groeshoelio drosom ni, i Dduw ei gyfodi ar fore’r trydydd dydd, iddo ddanfon yr Ysbryd Glân ar y disgyblion ar y Pentecost cyntaf a’i fod yn eistedd ar ddeheulaw Duw, y Tad, yn ben ar bob peth? Os gellir cyffesu’r ffydd hon o hyd, sut y maeei dehongli heddiw? Bydd darllenwyr y gyfrol hon yn sylweddoli fod llawer, fel Richard Dawkins, Christopher Hitchens, Daniel Dennett a Sam Harris, deiliaid ‘yr atheistiaeth newydd’, yn honni nad yw cred mewn Duw yn bosibl neu, o leiaf, nad yw’n angen rheidiol bellach. Credant y gellir cynnig esboniad llawn o fodolaeth y bydysawd a’r bywyd sydd ynddo heb orfod syrthio’n ôl ar gredu bod ffynhonnell ddwyfol i’r cyfan. Nid oes angen Duw i esbonio’r byd. I’r gwrthwyneb, gellid dadlau fod yn rhaid barnu safbwyntiau
RHagarweiniad
gwyddonol yn unol â datguddiad Duw yn Iesu Grist drwy’rBeibl. Bydd y gyfrol hon yn cynorthwyo darllenwyr i fod yn ymwyb odol fod cryn amrywiaeth barn yn y maes cymhleth a diddorol hwn. Fodd bynnag, cred sicr yr awduron presennol yw nad oes gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, a bod deall twriaeth o’r naill yn cyfoethogi’n dirnadaeth o gyfoeth y llall. Dwy ffenestr wahanol sydd yma sy’n ein galluogi i edrych ar ryfeddod Duw, ar y bydysawd sy’n tarddu yn ei fwriad a’i egni creadigol, ac ar wyrth pob bywyd sy’n ddibynnol ar y bydysawd hwnnw. Eu hamcan yw awgrymu sut y gellir cyfoethogi ffydd Cristnogion yn y Duw a ddatguddiwyd yn Iesu drwy gymryd o ddifri y ddeall twriaeth wyddonol gyfoes o’r bydysawd a’r bywyd sydd ynddo. Mewn geiriau eraill, sut y gall diwinyddiaeth Gristnogol gofleidio’n feirniadol a chreadigol y ddealltwriaeth wyddonol, a chael ei dyfn hau a’i chyfoethogi drwy hynny? Felly, tra bod rhai – o safbwynt diwinyddol neu o safbwynt anghrediniol – wedi gweld gwrthdaro rhwng Cristnogaeth a gwyddoniaeth, bydd y gyfrol hon yn pwys leisio’r modd y mae diwinyddiaeth Gristnogol a gwyddoniaeth yn cyfoethogi ei gilydd a thrwy hynny’n cyfrannu at ehangder a dyfnder ein dirnadaeth o’r ffydd Gristnogol a’r cread o’n cwmpas. Enghraifft o’r safbwynt cadarnhaol hwn am berthynas Cristnogaeth a gwyddoniaeth oedd datganiad y Pab Ffransis mewn anerchiad i’r Academi Pontificaidd ar Wyddoniaeth yn 2014 ei fod yn credu fod y Glec Fawr ac esblygiad yn hollol gyson â’r ffydd Gristnogol yn Nuw fel Crëwr y bydysawd a Rhoddwr bywyd. Nid yw hyn, meddai’r Pab, yn golygu mai ‘dewin yw Duw’. Dyma dystiolaeth bwysig o blaid safbwynt y gyfrol hon mai egni creadigol a chariadus Duw fu ar waith o’r dechreuadau. Darganfod mwy am yr egni 1 hwn a wnawn o genhedlaeth i genhedlaeth. Fel yn achos y rhan fwyaf o gyfrolau o’r fath, bydd cyfyngiadau ymarferol ar hyd y gyfrol ac felly ar y rhychwant o bynciau y gellir eu trafod. Gobaith yr awduron yw eu bod wedi ymdrin â’r prif faterion sy’n destun trafodaethau cyfoes ar berthynas Cristnogaeth a gwyddoniaeth. Tarddodd y gyfrol mewn cyrsiau ar yr un pwnc yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin (fel yr ydoedd y pryd hwnnw) ac ym Mhrifysgol Caerdydd. Rhannwyd y gwaith o
viii
RHagarweiniad
lunio’r drafftiau cyntaf o’r penodau rhwng y ddau awdur cyn iddynt fynd ati i werthuso a beirniadu gwaith ei gilydd nes dod i gytundeb ar fersiynau terfynol o’r penodau. Yn yr ystyr hwn y mae’r gyfrol gyfan yn gyfanwaith gan y ddau awdur. Cyflwyna’r bennod gyntaf, ‘Edrych yn Ôl: Rhai Trobwyntiau Hanesyddol’, fraslun o ddatblygiad y drafodaeth rhwng diwinydd iaeth a gwyddoniaeth o’r Oesoedd Canol ymlaen. Ceir ystyriaeth o’r chwyldro meddyliol a achoswyd o ganlyniad i waith nifer o wydd onwyr amlwg ac enwog. Rhoddir ystyriaeth i ddamcaniaethau heriol Copernicws a Galileo yn ystod yr unfed a’r ail ganrif ar bymtheg yngl}n â chylchoedd y planedau a pherthynas yr Haul â’r ddaearen hon. Cawn drafod goblygiadau Deddfau Mudiant Newton yn y ddeunawfed ganrif. Y mae’r chwyldro a’r dadlau a achoswyd gan Ddamcaniaeth Esblygiad Charles Darwin ac Alfred Wallace yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dal i ennyn trafodaeth frwd, a hynny dros ganrif a hanner wedi cyhoeddi cyfrol enwog Darwin,On the Origin of Species, yn 1859, a rhoddir ystyriaeth i’r dadleuon hyn. Bu chwyldro gwyddonol yr ugeinfed ganrif a’r ganrif bresennol yr un mor gynhyrfus a cheir cyfle yn y bennod hon i roi ystyriaeth gychwynnol i feysydd megis Damcaniaeth Cwantwm, geneteg a chosmoleg. Seiliau athronyddol gwyddoniaeth a diwinyddiaeth fydd pwnc yr ail bennod. Cymharir seiliau athronyddol y ddwy ddisgyblaeth a thrwy hynny ceisir cyfrannu at ddealltwriaeth lawnach o’u perth ynas â’i gilydd, a’u cyfraniad at ein dirnadaeth o’r ffydd Gristnogol. Trafodir amcan y ddwy ddisgyblaeth, eu rhagdybiaethau sylfaenol, y dulliau dadansoddi a ddefnyddir ganddynt, a chanlyniadau eu hymchwilio a’u hymholi. Ystyrir materion megis arbrofi, casglu tystiolaeth empeiraidd, llunio, cadarnhau, addasu a gwrthod damcaniaethau, a lle modelau mewn esboniadaeth wyddonol. Ar ddiwedd y bennod cyflwynir gwahanol ffyrdd o ddeall perthynas y ddwy ddisgyblaeth â’i gilydd. Dechreuadau’r bydysawd fydd pwnc y drydedd bennod, ‘Y Glec Fawr, y Cread a Duw’. Rhoir amlinelliad o brif ddamcan iaethau cosmoleg gyfoes a’r datblygiadau diweddaraf yn y maes, gan gynnwys yr ymchwil a ddeilliodd o’rCyclotronyn Genefa. Ydyw’r safbwynt beiblaidd yn anghyson â’r damcaniaethau hyn?
ix
  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents