Y Dychymyg Ôl-Fodern
120 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Y Dychymyg Ôl-Fodern , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
120 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy’n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955–). Hon yw’r astudiaeth estynedig gyntaf o’i waith, a rhoddir sylw penodol i’r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 – cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i’r afael â phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ôl-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i’r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ôl-fodernaidd Gymraeg a’i harwyddocâd i’n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg â beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio’r ffin dybiedig rhwng ‘ffaith’ a ‘ffuglen’. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw â thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.


Diolchiadau
Rhagair
Rhagymadrodd
1. Dechrau’r Tymor ym Mhrifysgol Caerefydd
2. O’r Merddwr Dychrynus
3. Ar drywydd Hen Lwybr a Storїau Eraill
4. Cynnal Gweithdy: Saith Pechod Marwol
5. Gwthio Ffiniau yn Te Gyda’r Frenhines
6. Pwyllgora a Chystadlu
7. Jean Baudrillard a’r cyflwr ‘hyperreal’
8. Trafod Theori Cadi
9. Agweddau ar Tair Ochr y Geiniog
10. Storïau Ffeithiol
11. Dadadeiladu ‘Recsarseis Bŵc’ yn Cathod a Chŵn
12. Adnabod Awdur?
13. Ymweld ac ailymweld yn Kate Roberts a’r Ystlum a Dirgelion Eraill
14. Crefft y Stori Fer Heddiw
15. Di-ffinio 60
16. Hel Syniadau
Llyfryddiaeth Ddethol

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 01 août 2020
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786835925
Langue Welsh

Informations légales : prix de location à la page 0,1250€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Y DYCHYMYG ÔL-FODERN
Agweddau ar ffuglen fer
Mihangel Morgan
Cyflwynaf y gyfrol hon i Iwan, gyda diolch ac edmygedd
Y DYCHYMYG ÔL-FODERN
Agweddau ar ffuglen fer
Mihangel Morgan
RHIANNON MARKS
Hawlfraint © Rhiannon Marks, 2020
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-590-1
e-ISBN 978-1-78683-592-5
Datganwyd gan Rhiannon Marks ei hawl foesol i’w chydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint,
Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cydnabyddir cymorth ariannol Prifysgol Caerdydd ar gyfer y cyhoeddiad hwn.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau’n gywir neu’n addas.
Llun y clawr: Tom Piper, Yr Ymgyrch 6A (2013), print digidol. Trwy ganiatâd stad yr artist.
Cynnwys
Diolchiadau
Rhagair
Rhagymadrodd
1. Dechrau’r Tymor ym Mhrifysgol Caerefydd
2. O’r Merddwr Dychrynus
3. Ar drywydd Hen Lwybr a Stor ї au Eraill
4. Cynnal Gweithdy: Saith Pechod Marwol
5. Gwthio Ffiniau yn Te Gyda’r Frenhines
6. Pwyllgora a Chystadlu
7. Jean Baudrillard a’r cyflwr ‘hyperreal’
8. Trafod Theori Cadi
9. Agweddau ar Tair Ochr y Geiniog
10. Storïau Ffeithiol
11. Dadadeiladu ‘Recsarseis Bŵc’ yn Cathod a Chŵn
12. Adnabod Awdur?
13. Ymweld ac ailymweld yn Kate Roberts a’r Ystlum a Dirgelion Eraill
14. Crefft y Stori Fer Heddiw
15. Di-ffinio 60
16. Hel Syniadau
Llyfryddiaeth Ddethol
Diolchiadau
Hoffwn ddiolch yn y lle cyntaf i Brifysgol Caerdydd am ddyfarnu imi gyfnodau ymchwil wedi eu hariannu i ddechrau ac i gwblhau’r ymchwil a fu’n sail i’r gyfrol hon. Mae fy nyled yn fawr i’m cydweithwyr hynaws a hoffus yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd am eu cyfeillgarwch bob amser a’u parodrwydd i wneud cymwynas. Diolch yn arbennig i’r Dr Dylan Foster Evans am ddarllen y gwaith yn ei gyfanrwydd ac am ei sylwadau gwerthfawr.
Carwn gydnabod fy niolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ariannu fy mhrosiect ‘Crefft y Stori Fer Heddiw’ a ganiataodd imi gynnal symposiwm ymchwil a chreu adnodd addysgol sy’n gysylltiedig â’r gyfrol hon. Rhaid diolch o galon i’r dyn ei hun, y Dr Mihangel Morgan, am gytuno i gael ei gyfweld gennyf ar gyfer y prosiect hwnnw ac am rannu ei ddysg â mi ar hyd y blynyddoedd fel darlithydd.
Rwy’n ddiolchgar hefyd i’r rhai a fu mor barod eu sgwrs a’u cymorth wrth imi ymchwilio: yr Athro Jane Aaron, y Dr Llŷr Gwyn Lewis, y Dr Stephanie Ward a’r Dr Mark Williams; yn ogystal â’r Dr Elke D’hoker am fy ngwahodd i Brifysgol KU Leuven fel ysgolhaig ar ymweliad. Diolch hefyd i aelodau’r European Network for Short Fiction Research am eu sylwadau ar bapurau ymchwil ac am ysgogi syniadau newydd.
Hoffwn ddiolch i holl staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu gofal a’u trylwyredd wrth lywio’r gyfrol hon drwy’r wasg. Diolch yn benodol i’r Dr Llion Wigley am ei gefnogaeth wrth drafod syniadau cychwynnol, ac i’r Golygydd, y Dr Dafydd Jones.
Yn olaf, diolch i’m teulu a’m ffrindiau am eu cefnogaeth ddiwyro. Diolch yn arbennig i’m tad, Tom, am fy nghyflwyno i storïau Mihangel Morgan yn y lle cyntaf ac i’m mam, Janet, a’m chwaer, Eleri, am eu hanogaeth a’u hwyliogrwydd bob amser. Mae fy nyled bennaf i’r ddau yn ‘62’ am wneud ein cartref yn un llon: diolch o waelod calon i’r Dr Iwan Wyn Rees, fy ngŵr a’m cydweithiwr, am ddarllen y deipysgrif â’i lygad barcud; ac i’m hysbrydoliaeth – fy merch annwyl, Mabli Haf – am wneud imi chwerthin bob dydd.
Rhagair
Awydd i ymdrin â gwaith awdur sy’n destun chwilfrydedd imi ers blynyddoedd sydd wrth wraidd y gyfrol hon. Drwy ei straeon byrion y’m cyflwynwyd gyntaf i waith Mihangel Morgan a hynny ar draeth nid nepell o La Rochelle pan oeddwn tua deuddeg oed. Cyn ichi gau’r cloriau ar y fath honiad ymhonnus hoffwn bwysleisio nad oedd yn arfer gennym fel teulu eistedd yn gwrando ar straeon byrion yn cael eu darllen yn uchel ond ar y diwrnod penodol hwn roedd fy nhad wedi gwirioni ar straeon swreal Saith Pechod Marwol ac yn chwerthin cymaint nes imi fynnu ei fod yn eu rhannu â mi. Gwirionais yn syth ar y straeon dychmygus a oedd mor wahanol i’r hyn a oedd ar ein cwricwlwm yn yr ysgol ar y pryd a mynd i chwilio am unrhyw gyfrol ag enw Mihangel Morgan arni. Buan iawn y creais arwydd ar ddrws fy ystafell wely yn cynnwys llinell gyntaf Dirgel Ddyn i gyfiawnhau fy nawn gynhenid o adael blerwch ar fy ôl – ‘Rhinwedd y cyffredin yw taclusrwydd’. Po fwyaf y darllenwn ei waith, y mwyaf y cynyddai fy nyhead i gwrdd â’r dyn ei hun.
O’r diwedd, cefais y cyfle pan ddaeth i Lanymddyfri i siarad â chriw blynyddoedd 12 ac 13 a oedd yn astudio ei waith ar gyfer yr arholiadau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch. Roeddwn ar dân eisiau gofyn iddo am ei waith ac er fy mod wrth reddf yn un swil rwy’n cofio mynd amdani y diwrnod hwnnw a holi’r awdur yn dwll. Atebodd rai o’m cwestiynau ond cofiaf deimlo braidd yn siomedig hefyd wrth iddo ddweud nad ei rôl fel awdur oedd esbonio ystyr ei waith: ‘y darllenydd sydd i benderfynu’. Wrth edrych yn ôl, mae’n debyg mai fy null naïf i o ddarllen a oedd ar fai – disgwyliwn y byddai gweld yr awdur yn datrys y dirgelion yn ei waith, ond fel y dysgais y diwrnod hwnnw, gêm y mae’n rhaid i’r darllenydd chwarae rôl weithredol ynddi yw darllen.
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, dyma ddod i adnabod Mihangel y darlithydd wrth imi astudio am radd BA mewn Cymraeg yn Aberystwyth. Dilynais ei gwrs Ysgrifennu Creadigol (i fyny’r grisiau troellog ar fore Llun lle’r oedd ‘vibes Parry-Williams’, chwedl Mihangel, yn dal i gael eu teimlo drwy’r muriau) ynghyd â modiwlau’n ymwneud â rhyddiaith amrywiol o wahanol gyfnodau: o Weledigaethau’r Bardd Cwsg i’r stori fer a chyfraniad Kate Roberts a John Gwilym Jones i ddatblygiad y ffurf yn ystod yr ugeinfed ganrif. Bu wedyn yn arholwr PhD arnaf a chefais gryn anogaeth ganddo i barhau ar drywydd ‘beirniadaeth greadigol’ – er na wyddai’r pryd hwnnw y byddwn yn troi at astudio’i waith ef maes o law. Ys dywedodd Gruffudd Gryg un tro, ‘disgybl wyf, ef a’m dysgawdd’.
A minnau nawr yn dysgu cyrsiau ar Ryddiaith Ddiweddar a Theori Lenyddol yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, cymeraf bob cyfle posibl i dynnu testunau Mihangel Morgan i’n trafodaethau dosbarth. Diolch yn arbennig i’r rheini y cefais y pleser o’u cwmni yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac am y mwynhad pur a gefais wrth inni ddatgymalu theorïau llenyddol a thestunau ôl-fodernaidd gyda’n gilydd. Gan hynny, gobeithio y bydd y gyfrol hon yn gyfraniad bychan tuag at lenwi un o’r bylchau niferus o ran trafodaethau beirniadol ar lenyddiaeth gyfoes Gymraeg.
Rhagymadrodd
Sonnir yn aml y dyddiau hyn am y stori fer fel ffurf sy’n prysur adennill tir wrth iddi gipio gwobrau llenyddol mawr eu bri yng Nghymru ac yn rhyngwladol. ‘Adfywiad’ oedd y gair mawr ar achlysur gwobrwyo casgliad o straeon byrion Sonia Edwards, Rhannu Ambarél , 1 yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn 2017 2 – a hynny dair blynedd union ar ôl i Lleucu Roberts gyflawni’r un gamp am ei chasgliad hithau, Saith Oes Efa . 3 Yn yr un modd yn 2013, pan ddyfarnwyd Gwobr Nobel i Alice Munro a’r Man Booker International Prize i Lydia Davis am weithiau o ffuglen fer, dywedodd Sam Baker yn y Telegraph rai misoedd yn ddiweddarach – ‘the short story is having “a moment”’, gan ddadlau i’r ffurf fod yn ‘poor relation of the novel’ am gyfnod rhy hir. 4
Beth sy’n gyfrifol am y ‘foment’ fawr hon? Yn ôl Sonia Edwards, mae ei hapêl yn ei chrynoder: ‘mae yna le iddi heddiw, yn enwedig a ninnau’n byw bywydau mor brysur.’ 5 Dywed Sam Baker yntau: ‘Suddenly, after years out in the cold, the short story finds itself the perfect fit for our attention spans and our mobile devices’, gan ychwanegu ‘it is technology that has cemented the short story’s popularity this century.’ 6 Mae i dechnoleg wrth gwrs ei phosibiliadau di-ben-draw o ran cyflwyno llenyddiaeth i ddarllenwyr, fel y gwelwyd gyda’r prosiect amlblatfform arloesol, ‘Pin Drop’. 7 Fe’i geilw ei hun yn ‘Short Story Salon’ sef salon rithiol lle ceir podlediadau o awduron ac actorion yn darllen straeon byrion cyfoes ac mae’n ei chyfrif ei hun ‘at the heart of a short story renaissance.’ 8
Beth am y stori fer Gymraeg: a ddaeth ei dadeni hithau? Yn yr astudiaeth hon eir ati i archwilio agweddau ar y ffurf ac i olrhain ei theithiau amrywiol yn nwylo un o feistri cyfoes y ffurf yng Nghymru, sef Mihangel Morgan. Y mae’n awdur toreithiog ac yn un sydd wedi arloesi ac arbrofi â sawl ffurf lenyddol: ym maes barddoniaeth 9 ac ym myd y nofel 10 gan ennill y Fedal Ryddiaith yn 1993 am y gyfrol Dirgel Ddyn. Serch hynny, gyda ffurf y stori fer y dechreuodd Mihangel Morgan ei yrfa ym myd rhyddiaith mewn gwirionedd gan mai hwn oedd y genre y dewisodd arbrofi ag ef ar gyfer ei ffolio ‘Ysgrifennu Creadigol’ ar ei gwrs gradd BA. 11 Ers hynny, cyhoeddodd wyth cyfrol o straeon byrion, gyda’r gyntaf, Hen Lwybr a Storïau Eraill , yn ymddangos yn 1992 a’r ddiweddaraf, 60, yn ymddangos yn 2017. Mae rhychwant ei gorpws llenyddol cyhoeddedig felly yn cynnig man cychwyn hwylus i fapio datblygiadau chwarter canrif ac i archwilio cyfraniad y llenor cynhyrchiol hwn yng nghyd-destun ffuglen fer.
Y stori fer gyfoes a dadeni’r 1990au
Canolbwyntir yma ar y cyfnod rhwng 1992 a 2017, lle y gwelwyd cyhoeddi wyth cyfrol o ffuglen fer gan Mihangel Morgan 12 a chyfnod a welodd ddatblygiadau amrywiol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Roedd blynyddoedd cynnar y 1990au, wrth gwrs, yn fwrlwm o egni creadigol ffres. Dyma gyfnod cyhoeddi gweithiau arobryn Robin Llywelyn, Mihangel Morgan, Wiliam Owen Robert

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents