Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes
300 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
300 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Mae’r byd gwaith yng Nghymru a’r Gymraeg fel disgyblaeth yn esblygu yn sgil y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol â sgiliau dwyieithog. Mae’r gyfrol ryngddisgyblaethol hon yn cyfuno lleisiau o’r byd academaidd a’r byd proffesiynol er mwyn archwilio i arwyddocâd a rôl y Gymraeg mewn gweithleoedd yn y Gymru gyfoes, ymateb y sectorau addysg a recriwtio i anghenion gweithwyr a sefydliadau, a rôl gwneuthurwyr polisi yn natblygiad yr iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Sut mae gwella sgiliau dwyieithog gweithwyr? Er gwaethaf ewyllys da nifer o sefydliadau, a yw sgiliau Cymraeg eu gweithwyr yn cael eu cymhwyso? Beth yw buddiannau'r Gymraeg i weithleoedd, a beth yw’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth weithredu a chynnig eu gwasanaethau’n ddwyieithog? Beth yw rôl y Llywodraeth a'r Comisiynydd Iaith yn y fath ddatblygiadau? Wrth ystyried a thrafod y cwestiynau hyn, gofynnir sut y mae polisïau, cyfreithiau a safonau iaith yn effeithio ar y gweithle cyfoes yng Nghymru?


Cynnwys
Diolchiadau
Rhestr o’r Ffigyrau
Cyflwyniad: Y Gymraeg a’r Gweithle Cyfoes
Rhianedd Jewell a Rhiannon Heledd Williams
Y Galw a’r Gwendidau
Sefydlu cwmni recriwtio dwyieithog
Alun Gruffudd
Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Eleri Hughes-Jones
Pa mor effeithiol yw'r drefn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Ifor Gruffydd
Cyfieithu Cyfiawn? Cyfieithu ar y pryd yn llysoedd Cymru
Rhianedd Jewell, Catrin Fflûr Huws a Hanna Binks
Y Datrysiadau a’r Cynlluniau
Meithrin Iaith: Y Gymraeg yn y Blynyddoedd Cynnar
Gwenllian Lansdown Davies ac Angharad Morgan
Cymraeg Gwaith
Helen Prosser
Y Mentrau Iaith a Chymraeg yn y Gweithle
Iwan Hywel
Mwy na hyfforddiant: cyfieithu a chyfrifoldeb
Mandi Morse
Y Polisïau a’r Safonau
Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru:
effaith safonau’r Gymraeg
Aled Roberts
Gweithredu Safonau’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: y dyddiau cynnar
Mari Elin Jones
Cynnig dros Ysgwydd? Y Gymraeg, y Prifysgolion a’r Gweithle Dwyieithog
R. Gwynedd Parry
Y Sŵn yn y Senedd: profiad a phryder Aelodau o’r Senedd am wneud cyfraniadau
trwy’r iaith Gymraeg
Delyth Jewell
Llyfryddiaeth
Y Cyfranwyr

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juillet 2022
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786838810
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 14 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,1050€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Y GYmraeG a Gweithle’r GYmru GYfoes
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 1 20/07/2022 14:28I Pete, am dy gefnogaeth a’th gariad di-ben-draw
I Llion, am dy ffydd ynof
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 2 20/07/2022 14:28Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes
Golygwyd gan
Rhianedd Jewell a Rhiannon Heledd Williams
Gwasg Prifysgol Cymru
2022
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 3 20/07/2022 14:28Hawlfraint © Y Cyfranwyr, 2022
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i
gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull
na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopïo, recordio, nac
fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r
Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-880-3
e-ISBN 978-1-78683-881-0
Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl foesol i’w cydnabod yn awduron ar y
gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a
Phatentau 1988.
Cysodwyd gan Eira Fenn Gaunt, Pentyrch, Caerdydd, Cymru
Argraffwyd gan CPI Antony Rowe, Melksham, Y Deyrnas Gyfunol
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 4 20/07/2022 14:28CYnnwYs
Diolchiadau vii
Rhestr o’r Ffgyrau ix
Y Cyfranwyrxvi
Cyfwyniad: y Gymraeg a’r gweithle cyfoes 1Rhianedd Jewell a Rhiannon Heledd Williams
Y Galw a’r Gwendidau
Sefydlu cwmni recriwtio dwyieithog 17
Alun Gruffudd
Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol 35
Betsi Cadwaladr
Eleri Hughes-Jones
Dysgu Cymraeg yn y gwaith neu ar gyfer y gwaith? 55
Ifor Gruffydd
Cyfeithu cyfawn? Cyfeithu ar y pryd yn llysoedd Cymru 81
Rhianedd Jewell, Catrin Ff ûr Huws a Hanna Binks
Y Datrysiadau a’r Cynlluniau
Meithrin iaith: y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar 111
Gwenllian Lansdown Davies ac Angharad Morgan
Cymraeg gwaith 129
Helen Prosser
Y mentrau iaith a Chymraeg yn y gweithle 143
Iwan Hywel
Mwy na hyfforddiant: cyfeithu a chyfrifoldeb 157
Mandi Morse
Y Polisïau a’r Safonau
Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau cyhoeddus
yng Nghymru: effaith Safonau’r Gymraeg
Aled Roberts 1962–2022 177
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 5 20/07/2022 14:28Y Gymraeg a Gweithle’r Gyfoes
Gweithredu Safonau’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth:
y dyddiau cynnar
Mari Elin Jones 197
Cynnig dros ysgwydd? Y Gymraeg, y prifysgolion a’r
gweithle dwyieithog
R. Gwynedd Parry 217
Y s{n yn y Senedd: profad a phryder aelodau o’r Senedd
am wneud cyfraniadau trwy’r iaith Gymraeg
Delyth Jewell 255
Mynegai 277
x
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 6 20/07/2022 14:28DiolChiaDau
Diolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am noddi’r gynhadledd
‘Cymraeg yn y gweithle’, sef sail y gyfrol hon, Prifysgol De Cymru
am ddarparu lleoliad ar gyfer y gynhadledd, ac yn enwedig i fy
nghydweithwyr Angharad Lewis, Cyril Jones, Cris Dafs, Judith
Dacey a Gwawr Jones am eu holl gefnogaeth. Yn bennaf, diolch i
fy chwaer Annes Ffur a fy nith Cadi Ffur, ac yn arbennig i Llion am
fy nghynnal.
Rhiannon Williams
Hoffwn ddiolch yn fawr i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cronfa
Syr David Hughes Parry a Chronfa HEFCW am gyllido’r
cyhoeddiad hwn. Rwy’n ddiolchgar iawn i’m cydweithwyr, Bleddyn Huws,
T. Robin Chapman, Cathryn Charnell-White a Simon Rodway am
roi cyfe a chartref imi yn Aberystwyth, ac rwy’n ddiolchgar i
Peadar Ó Muircheartaigh, Eurig Salisbury, Mandi Morse, Mererid
Hopwood, Rhian Haf Davies ac Amanda Jones am eu holl
gefnogaeth yn y rôl hon. Hoffwn ddiolch yn bennaf i’m g{r, Pete, fy mab,
Heulyn, fy chwaer, Delyth, a’m rhieni, Anthony a Siân, am eu
cefnogaeth ym mhob ffordd bosibl.
Rhianedd Jewell
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 7 20/07/2022 14:28Mae'r dudalen hon yn fwriadol wag
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 8 20/07/2022 14:28rhestr o’r ffiGYrau
Ffgur 1. Monitro a pherfformiad
Ffgur 2. Tarddiad y dogfennau a werthuswyd
Ffgur 3. Natur y cyhoeddiad a werthuswyd
Ffgur 4. Monitro cynnydd – adborth gan y cyfogwyr
Ffgur 5. Disgwyliadau ar y dysgwyr i ddefnyddio’r sgiliau
Cymraeg a ddysgwyd yn y gwaith
Ffgur 6. Data Mudiad Meithrin 2019
Ffgur 7. Trosolwg cyllid y Mentrau Iaith 2019–20
Ffgur 8. Trosolwg staffo y Mentrau Iaith 2019–20
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 9 20/07/2022 14:28Mae'r dudalen hon yn fwriadol wag
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 8 20/07/2022 14:28Y CYfranwYr
Rhianedd Jewell
Ieithydd ac academydd yw Dr Rhianedd Jewell sy’n gweithio fel
uwch ddarlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol
Aberystwyth. Astudiodd hi BA mewn Ieithoedd Modern (Ffrangeg
ac Eidaleg) ym Mhrifysgol Rhydychen cyn cwblhau MSt a DPhil
mewn llenyddiaeth Eidaleg yno. Mae hi’n arbenigo ym maes
astudiaethau cyfeithu, ac mae ei hymchwil yn archwilio cyfeithu llen­
yddol, cyfeithu ar y pryd ac awduron Cymru a’r Eidal. Yn 2018
enillodd ei chyfrol, Her a Hawl Cyfeithu Dramâu: Saunders Lewis,
Samuel Beckett a Molière, Wobr Syr Ellis Griffth ac fe enillodd hi
Fedal Dillwyn y Celfyddydau Creadigol a’r Dyniaethau gan
Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn yr un fwyddyn.
Rhiannon Heledd Williams
Derbyniodd Dr Rhiannon Heledd Williams radd dosbarth cyntaf
yn y Gymraeg gan Brifysgol Aberystwyth cyn mynd ymlaen i
astudio MA mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Cwblhaodd ddoethuriaeth ar y wasg Gymraeg yn America yn
y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n
swyddog datblygu’r Gymraeg ar gyfer y Coleg Cymraeg
Cenedlaethol ac yn uwch ddarlithydd ac arweinydd gradd Cymraeg byd
gwaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ers 2017 mae hi’n gweithio yn
Nh}’r Cyffredin, fel arbenigwr materion Cymreig i ddechrau ac
erbyn hyn fel rheolwr cydlynu’r berthynas gyda’r Undeb
Ewropeaidd. Mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr, Cyfaill Pwy o’r Hen Wlad a
Cymraeg yn y Gweithle.
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 11 20/07/2022 14:28Y Cyfranwyr
Alun Gruffudd
Bu Alun Gruffudd yn gweithio fel ymgynghorydd gwleidyddol,
gyda dros bymtheg mlynedd o brofad ym maes polisi a materion
cyhoeddus gan reoli perthynas gyda chleientiaid o’r sectorau
cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector. Bu’n aelod bwrdd a
chyfarwyddwr cwmni materion cyhoeddus ac yn ymddiriedolwr o
elusen Cyngor ar Bopeth leol gyda dealltwriaeth a phrofad o
gyn llunio busnes ac ariannol, a rheoli newid. Bu Alun yn bartner
yng nghwmni recriwtio Swyddle am dros bum mlynedd. Ar hyn
o bryd, mae’n rheolwr gwasanaethau gyda Cyngor ar Bopeth Cymru
ac hefyd wedi gweithio fel hyfforddwr i’r gwasanaeth sifl ac yn
diwtor Cymraeg i oedolion gyda Phrifysgol Caerdydd.
Eleri Hughes-Jones
Graddiodd Eleri Hughes-Jones yn y Gymraeg ym Mhrifysgol
Cymru, Bangor cyn ennill gradd MA mewn polisi a chynllunio
ieithyddol gyda’r Brifysgol. Mae ganddi hefyd ddiploma uwch
mewn rheoli ac arweinyddiaeth yn y gweithle. Cyn ymuno â’r
gwasanaeth iechyd, gweithiodd i bapur newydd y Caernarfon &
Denbigh Herald, ac yng Nghyngor Gwynedd yn arwain ar brosiectau
mewnol. Daeth Eleri i weithio i’r gwasanaeth iechyd yn 2007
fel cyfeithydd a swyddog iaith i Ymddiriedolaeth GIG Gogledd
Orllewin. Bellach hi yw pennaeth Gwasanaeth Cymraeg Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hi’n gyfrifol am dîm sy’n
sicrhau cydymffurfaeth ddeddfwriaethol, datblygu’r gweithlu ac
annog a chynyddu’r ystod o ddarpariaeth ddwyieithog a gynigir
ar draws y sefydliad.
Ifor Gruffydd
Mae Ifor Gruffydd yn gyfarwyddwr Dysgu Cymraeg y
GogleddOrllewin ym Mhrifysgol Bangor; un o’r 11 darparwr dysgu Cymraeg
i oedolion dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.
Cafodd ei fagu a’i addysgu ar Ynys Môn cyn mynd i Brifysgol
Abertawe i raddio yn y Gymraeg ac i ennill gradd MA mewn
Cymdeithaseg Iaith. Mae ei ddiddordeb ymchwil a maes ei ddoethuriaeth
xii
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 12 20/07/2022 14:28Y Cyfranwyr
o Brifysgol Bangor ym maes rheolaeth strategol o gaffaeliad iaith
yn y gweithle. Cyn symud i faes Cymraeg i oedolion yn 2002, bu’n
gweithio ym maes llywodraeth leol yn Ynys Môn ac mewn addysg
uwch ym Mhrifysgol Caerdydd mewn swyddi a oedd yn ymwneud
â pholisi iaith.
Catrin Ffûr Huws
Uwch ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol
Aberystwyth yw Dr Catrin Ffûr Huws, sy’n arbenigo ar faterion
yn ymdrin â dehongli deddfwriaeth, gyda phwyslais arbennig ar
ddadansoddi deddfwriaeth ddwyieithog. Mae hi hefyd yn arbenigo
ar faterion yn ymwneud â statws cyfreithiol y Gymraeg o fewn y
gyfundrefn gyfreithiol, cyfraith ddatganoledig, a deallusrwydd
artiffsial a’r gyfraith.
Hanna Binks
Mae Dr Hanna Binks yn seicolegydd ac ieithydd sydd ag
arbenigedd ym maes dwyieithrwydd. Ar ôl cwblhau doethuriaeth ym
Mhrifysgol Bangor, ymunodd â’r Adran Seicoleg ym Mhrifysgol
Aberystwyth fel darlithydd. Prif ffocws ei hymchwil yw unigolion
sy’n caffael systemau gramadegol y Gymraeg a rôl y ffactorau
ieithyddol ychwanegol sy’n cymedroli hyfedredd iaith. Y tu hwnt
i hyn, mae ei diddordebau ymchwil eraill yn cynnwys y Gymraeg
yng nghyd-destun gofal iechyd a’r gyfraith.
Gwenllian Lansdown Davies
Astudiodd Dr Gwenllian Lansdown Davies Ffrangeg a Sbaeneg
yn Rhydychen a byw am gyfnod yn Galisia a Brwsel, cyn cwblhau
gradd MScEcon a doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol
ym Mhrifysgol Caerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth.
Ar ôl cael ei hethol i gynrychioli ward Glanyrafon ar Gyngor
Sir Caerdydd yn 2004, gweithiodd fel rheolwr swyddfa Leanne
Wood AS cyn cael ei phenodi’n brif weithredwr Plaid Cymru yn
2007. Yn 2011, fe’i penodwyd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym
xiii
00 Prelims Gweithle'r 2_Mehefin_2022cbrev.indd 13 20/07/2022 14:28Y Cyfranwyr
Mhrifysgol Aberystwyth fel swyddog cyhoeddiadau a
chynorthwyydd golygyddol y cyfnodolyn ymchwil, Gwerddon . Cych
wynnodd ar ei swydd fel prif weithredwr Mudiad Meithrin ym mis
Medi 2014.
Angharad Morgan
Mae Angharad Morgan yn dod o Bonty

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents