Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes
143 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
143 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Mae'r byd gwaith yng Nghymru a'r Gymraeg fel disgyblaeth yn esblygu yn sgil y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol a sgiliau dwyieithog. Mae'r gyfrol ryngddisgyblaethol hon yn cyfuno lleisiau o'r byd academaidd a'r byd proffesiynol er mwyn archwilio i arwyddocad a rol y Gymraeg mewn gweithleoedd yn y Gymru gyfoes, ymateb y sectorau addysg a recriwtio i anghenion gweithwyr a sefydliadau, a rol gwneuthurwyr polisi yn natblygiad yr iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Sut mae gwella sgiliau dwyieithog gweithwyr? Er gwaethaf ewyllys da nifer o sefydliadau, a yw sgiliau Cymraeg eu gweithwyr yn cael eu cymhwyso? Beth yw buddiannau'r Gymraeg i weithleoedd, a beth yw'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu wrth weithredu a chynnig eu gwasanaethau'n ddwyieithog? Beth yw rol y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg yn y fath ddatblygiadau? Wrth ystyried a thrafod y cwestiynau hyn, gofynnir sut y mae polisiau, cyfreithiau a safonau iaith yn effeithio ar y gweithle cyfoes yng Nghymru.

Cynnwys
Diolchiadau
Rhestr o’r Ffigyrau
Cyflwyniad: Y Gymraeg a’r Gweithle Cyfoes
Rhianedd Jewell a Rhiannon Heledd Williams
Y Galw a’r Gwendidau
Sefydlu cwmni recriwtio dwyieithog
Alun Gruffudd
Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Eleri Hughes-Jones
Pa mor effeithiol yw'r drefn yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?
Ifor Gruffydd
Cyfieithu Cyfiawn? Cyfieithu ar y pryd yn llysoedd Cymru
Rhianedd Jewell, Catrin Fflûr Huws a Hanna Binks
Y Datrysiadau a’r Cynlluniau
Meithrin Iaith: Y Gymraeg yn y Blynyddoedd Cynnar
Gwenllian Lansdown Davies ac Angharad Morgan
Cymraeg Gwaith
Helen Prosser
Y Mentrau Iaith a Chymraeg yn y Gweithle
Iwan Hywel
Mwy na hyfforddiant: cyfieithu a chyfrifoldeb
Mandi Morse
Y Polisïau a’r Safonau
Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg mewn sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru:
effaith safonau’r Gymraeg
Aled Roberts
Gweithredu Safonau’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: y dyddiau cynnar
Mari Elin Jones
Cynnig dros Ysgwydd? Y Gymraeg, y Prifysgolion a’r Gweithle Dwyieithog
R. Gwynedd Parry
Y Sŵn yn y Senedd: profiad a phryder Aelodau o’r Senedd am wneud cyfraniadau
trwy’r iaith Gymraeg
Delyth Jewell
Llyfryddiaeth
Y Cyfranwyr

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juillet 2022
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786838827
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 3 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,1150€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Y G YMRAEG A G WEITHLE R G YMRU G YFOES

Hawlfraint Y Cyfranwyr, 2022
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogop o, recordio, nac fel arall, heb ganiat d ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa r Brifysgol, Rhodfa r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN: 978-1-78683-880-3 eISBN: 978-1-78683-882-7
Datganwyd gan y Cyfranwyr eu hawl foesol i w cydnabod yn awduron ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.
I Pete, am dy gefnogaeth a th gariad di-ben-draw
I Llion, am dy ffydd ynof
C YNNWYS
Diolchiadau
Rhestr o r Ffigyrau
Y Cyfranwyr
Cyflwyniad: y Gymraeg a r gweithle cyfoes
Rhianedd Jewell a Rhiannon Heledd Williams
Y Galw a r Gwendidau
Sefydlu cwmni recriwtio dwyieithog
Alun Gruffudd
Gwasanaethau Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Eleri Hughes-Jones
Dysgu Cymraeg yn y gwaith neu ar gyfer y gwaith?
Ifor Gruffydd
Cyfieithu cyfiawn? Cyfieithu ar y pryd yn llysoedd Cymru
Rhianedd Jewell, Catrin Ffl r Huws a Hanna Binks
Y Datrysiadau a r Cynlluniau
Meithrin iaith: y Gymraeg yn y blynyddoedd cynnar
Gwenllian Lansdown Davies ac Angharad Morgan
Cymraeg gwaith
Helen Prosser
Y mentrau iaith a Chymraeg yn y gweithle
Iwan Hywel
Mwy na hyfforddiant: cyfieithu a chyfrifoldeb
Mandi Morse
Y Polis au a r Safonau
Cynyddu r defnydd o r Gymraeg mewn sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru: effaith Safonau r Gymraeg
Aled Roberts 1962-2022
Gweithredu Safonau r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth: y dyddiau cynnar
Mari Elin Jones
Cynnig dros ysgwydd? Y Gymraeg, y prifysgolion a r gweithle dwyieithog
R. Gwynedd Parry
Y s n yn y Senedd: profiad a phryder aelodau o r Senedd am wneud cyfraniadau trwy r iaith Gymraeg
Delyth Jewell
Nodiadau
Mynegai
D IOLCHIADAU
Diolch i r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am noddi r gynhadledd Cymraeg yn y gweithle , sef sail y gyfrol hon, Prifysgol De Cymru am ddarparu lleoliad ar gyfer y gynhadledd, ac yn enwedig i fy nghydweithwyr Angharad Lewis, Cyril Jones, Cris Dafis, Judith Dacey a Gwawr Jones am eu holl gefnogaeth. Yn bennaf, diolch i fy chwaer Annes Fflur a fy nith Cadi Fflur, ac yn arbennig i Llion am fy nghynnal.
Rhiannon Williams
Hoffwn ddiolch yn fawr i r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Cronfa Syr David Hughes Parry a Chronfa HEFCW am gyllido r cyhoeddiad hwn. Rwy n ddiolchgar iawn i m cydweithwyr, Bleddyn Huws, T. Robin Chapman, Cathryn Charnell-White a Simon Rodway am roi cyfle a chartref imi yn Aberystwyth, ac rwy n ddiolchgar i Peadar Muircheartaigh, Eurig Salisbury, Mandi Morse, Mererid Hopwood, Rhian Haf Davies ac Amanda Jones am eu holl gefnogaeth yn y r l hon. Hoffwn ddiolch yn bennaf i m g r, Pete, fy mab, Heulyn, fy chwaer, Delyth, a m rhieni, Anthony a Si n, am eu cefnogaeth ym mhob ffordd bosibl.
Rhianedd Jewell
R HESTR O R F FIGYRAU
Ffigur 1. Monitro a pherfformiad
Ffigur 2. Tarddiad y dogfennau a werthuswyd
Ffigur 3. Natur y cyhoeddiad a werthuswyd
Ffigur 4. Monitro cynnydd - adborth gan y cyflogwyr
Ffigur 5. Disgwyliadau ar y dysgwyr i ddefnyddio r sgiliau Cymraeg a ddysgwyd yn y gwaith
Ffigur 6. Data Mudiad Meithrin 2019
Ffigur 7. Trosolwg cyllid y Mentrau Iaith 2019-20
Ffigur 8. Trosolwg staffio y Mentrau Iaith 2019-20
Y C YFRANWYR
Rhianedd Jewell
Ieithydd ac academydd yw Dr Rhianedd Jewell sy n gweithio fel uwch ddarlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Astudiodd hi BA mewn Ieithoedd Modern (Ffrangeg ac Eidaleg) ym Mhrifysgol Rhydychen cyn cwblhau MSt a DPhil mewn llenyddiaeth Eidaleg yno. Mae hi n arbenigo ym maes astudiaethau cyfieithu, ac mae ei hymchwil yn archwilio cyfieithu llenyddol, cyfieithu ar y pryd ac awduron Cymru a r Eidal. Yn 2018 enillodd ei chyfrol, Her a Hawl Cyfieithu Dram u: Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moli re , Wobr Syr Ellis Griffith ac fe enillodd hi Fedal Dillwyn y Celfyddydau Creadigol a r Dyniaethau gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn yr un flwyddyn.
Rhiannon Heledd Williams
Derbyniodd Dr Rhiannon Heledd Williams radd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg gan Brifysgol Aberystwyth cyn mynd ymlaen i astudio MA mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Cwblhaodd ddoethuriaeth ar y wasg Gymraeg yn America yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhrifysgol Bangor. Bu n swyddog datblygu r Gymraeg ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn uwch ddarlithydd ac arweinydd gradd Cymraeg byd gwaith ym Mhrifysgol De Cymru. Ers 2017 mae hi n gweithio yn Nh r Cyffredin, fel arbenigwr materion Cymreig i ddechrau ac erbyn hyn fel rheolwr cydlynu r berthynas gyda r Undeb Ewropeaidd. Mae hi wedi cyhoeddi dau lyfr, Cyfaill Pwy o r Hen Wlad a Cymraeg yn y Gweithle .
Alun Gruffudd
Bu Alun Gruffudd yn gweithio fel ymgynghorydd gwleidyddol, gyda dros bymtheg mlynedd o brofiad ym maes polisi a materion cyhoeddus gan reoli perthynas gyda chleientiaid o r sectorau cyhoeddus, preifat a r trydydd sector. Bu n aelod bwrdd a chyfarwyddwr cwmni materion cyhoeddus ac yn ymddiriedolwr o elusen Cyngor ar Bopeth leol gyda dealltwriaeth a phrofiad o gynllunio busnes ac ariannol, a rheoli newid. Bu Alun yn bartner yng nghwmni recriwtio Swyddle am dros bum mlynedd. Ar hyn o bryd, mae n rheolwr gwasanaethau gyda Cyngor ar Bopeth Cymru ac hefyd wedi gweithio fel hyfforddwr i r gwasanaeth sifil ac yn diwtor Cymraeg i oedolion gyda Phrifysgol Caerdydd.
Eleri Hughes-Jones
Graddiodd Eleri Hughes-Jones yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor cyn ennill gradd MA mewn polisi a chynllunio ieithyddol gyda r Brifysgol. Mae ganddi hefyd ddiploma uwch mewn rheoli ac arweinyddiaeth yn y gweithle. Cyn ymuno r gwasanaeth iechyd, gweithiodd i bapur newydd y Caernarfon Denbigh Herald , ac yng Nghyngor Gwynedd yn arwain ar brosiectau mewnol. Daeth Eleri i weithio i r gwasanaeth iechyd yn 2007 fel cyfieithydd a swyddog iaith i Ymddiriedolaeth GIG Gogledd Orllewin. Bellach hi yw pennaeth Gwasanaeth Cymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Mae hi n gyfrifol am d m sy n sicrhau cydymffurfiaeth ddeddfwriaethol, datblygu r gweithlu ac annog a chynyddu r ystod o ddarpariaeth ddwyieithog a gynigir ar draws y sefydliad.
Ifor Gruffydd
Mae Ifor Gruffydd yn gyfarwyddwr Dysgu Cymraeg y Gogledd-Orllewin ym Mhrifysgol Bangor; un o r 11 darparwr dysgu Cymraeg i oedolion dan ofal y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Cafodd ei fagu a i addysgu ar Ynys M n cyn mynd i Brifysgol Abertawe i raddio yn y Gymraeg ac i ennill gradd MA mewn Cymdeithaseg Iaith. Mae ei ddiddordeb ymchwil a maes ei ddoethuriaeth o Brifysgol Bangor ym maes rheolaeth strategol o gaffaeliad iaith yn y gweithle. Cyn symud i faes Cymraeg i oedolion yn 2002, bu n gweithio ym maes llywodraeth leol yn Ynys M n ac mewn addysg uwch ym Mhrifysgol Caerdydd mewn swyddi a oedd yn ymwneud pholisi iaith.
Catrin Ffl r Huws
Uwch ddarlithydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth yw Dr Catrin Ffl r Huws, sy n arbenigo ar faterion yn ymdrin dehongli deddfwriaeth, gyda phwyslais arbennig ar ddadansoddi deddfwriaeth ddwyieithog. Mae hi hefyd yn arbenigo ar faterion yn ymwneud statws cyfreithiol y Gymraeg o fewn y gyfundrefn gyfreithiol, cyfraith ddatganoledig, a deallusrwydd artiffisial a r gyfraith.
Hanna Binks
Mae Dr Hanna Binks yn seicolegydd ac ieithydd sydd ag arbenigedd ym maes dwyieithrwydd. Ar l cwblhau doethuriaeth ym Mhrifysgol Bangor, ymunodd r Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth fel darlithydd. Prif ffocws ei hymchwil yw unigolion sy n caffael systemau gramadegol y Gymraeg a r l y ffactorau ieithyddol ychwanegol sy n cymedroli hyfedredd iaith. Y tu hwnt i hyn, mae ei diddordebau ymchwil eraill yn cynnwys y Gymraeg yng nghyd-destun gofal iechyd a r gyfraith.
Gwenllian Lansdown Davies
Astudiodd Dr Gwenllian Lansdown Davies Ffrangeg a Sbaeneg yn Rhydychen a byw am gyfnod yn Galisia a Brwsel, cyn cwblhau gradd MScEcon a doethuriaeth mewn Athroniaeth Wleidyddol ym Mhrifysgol Caerdydd ble bu hefyd yn diwtor gwleidyddiaeth. Ar l cael ei hethol i gynrychioli ward Glanyrafon ar Gyngor Sir Caerdydd yn 2004, gweithiodd fel rheolwr swyddfa Leanne Wood AS cyn cael ei phenodi n brif weithredwr Plaid Cymru yn 2007. Yn 2011, fe i penodwyd i r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Aberystwyth fel swyddog cyhoeddiadau a chynorthwyydd golygyddol y cyfnodolyn ymchwil, Gwerddon . Cychwynnodd ar ei swydd fel prif weithredwr Mudiad Meithrin ym mis Medi 2014.
Angharad Morgan
Mae Angharad Morgan yn dod o Bontypridd yn wreiddiol, ac wedi ymgartrefu gyda i theulu yn Aberystwyth ers dod yno dros dro i r brifysgol. Astudiodd Ffrangeg ac Ieithyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth a byw yn Lausanne a Montr al am gyfnod. Cwblhaodd gwrs TAR cyn mynd i addysgu Ffrangeg a Chymraeg, ac yna cwblhau tystysgrif l-radd mewn polisi a chynllunio iaith yn 2016. Cychwynnodd ei gyrfa gyda Mudiad Meithrin yn 2010 fel swyddog iaith cenedlaethol ac yna gweithiodd fel cyfarwyddwr iaith, cyn cael ei phenodi yn rheolwr polisi yn 2015.
Helen Prosser
Mae Helen Prosser yn gweithio fel cyfarwyddwr dysgu ac addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Yn y r l hon, mae hi wedi bod yn gyfrifol am gyflwyno cyfres o lyfrau cwrs newydd sy n cael eu defnyddio ar draws Cymru. Mae n gweithio n gyson fel tiwtor dysgu Cymraeg ac fel hyfforddwr ar gyfer tiwtoriaid Cymraeg.
Iwan Hywel
Ymunodd Iwan Mentrau Iaith Cymru fel swyddog hyfforddiant yn 2015, cyn symud i fod yn arweinydd t m yn 2017. Cyn ymuno MIC, bu n gynghorydd gyrfa i Gyrfa Cymru ac yn y r l honno bu n gweithio gyda phobl ifanc

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents