Sylfeini Cyfieithu Testun
141 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Sylfeini Cyfieithu Testun , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
141 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Mae’r gyfrol hon yn tywys cyfieithwyr newydd a’r rhai sydd â’u bryd ar weithio yn y maes trwy brif egwyddorion llunio cyfieithiad da. Mae’n trafod gwaith cyfieithwyr o safbwynt diogelu lle’r iaith yn y gymdeithas, yn egluro beth sydd ei angen ar ddarpar gyfieithwyr o ran sgiliau a gwybodaeth, ac yn dangos y gwych a’r gwachul er mwyn cynorthwyo cyfieithwyr i lunio gwaith da heb y llediaith a’r cyfieithu lletchwith. Mae’n taflu goleuni ar yr amryfal dechnegau y mae cyfieithwyr cymwys yn eu defnyddio, o’r broses ddarllen hyd at y broses adolygu, ac mae’n gwneud hynny trwy enghreifftiau o gyfieithiadau go iawn a gyhoeddwyd. Mae’n trafod cyfieithu peirianyddol, dyfodol y proffesiwn a sut i wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae ymchwil academaidd hefyd yn elfen gref o’r gwaith, ac mae’r cyngor a’r canllawiau yn seiliedig ar yr ysgolheictod trylwyraf ynghyd â phrofiad yr awdur o’r byd cyfieithu proffesiynol.


Cydnabyddiaethau
Ffigurau a Thablau
Rhagair
Cyflwyniad
I bwy mae’r llyfr hwn?
Yr hyn na fydd yn cael ei drafod
Diffiniadau
Sut mae defnyddio’r gyfrol hon
Gair am ieithwedd y gyfrol
Pennod 1: Cyfieithu yn y Gymru Gyfoes
Pennod 2: Pwy yw’r Cyfieithydd a Beth Mae’n ei Wneud?
Pennod 3: Theori: Sylfeini Ymarfer Gwybodus
Pennod 4: Darllen Er Mwyn Cyfieithu 81
Pennod 5: Strategaethau wrth Lunio Cyfieithiadau
Pennod 6: Sgiliau Testunol, Adolygu Gwaith ac Ansawdd Testunau
Pennod 7: Technoleg Cyfieithu a Chyfieithu Proffesiynol
Pennod 8: Clymu’r edafedd ynghyd: Cyfieithu Da, Cyfieithu Sâl
Gair i gloi
Darllen pellach
Llyfryddiaeth
Mynegai

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 novembre 2021
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786838179
Langue Welsh

Informations légales : prix de location à la page 0,1458€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Sylfeini Cyfieithu Testun
S YLFEINI C YFIEITHU T ESTUN
Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol
Ben Screen
Hawlfraint © Ben Screen, 2021
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogopio, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10 3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-815-5
e-ISBN 978-1-78683-817-9
Datganwyd gan Ben Screen ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Nid oes gan y cyhoeddwr unrhyw gyfrifoldeb am ddyfalbarhad na chywirdeb URLs ar gyfer unrhyw wefannau rhyngrwyd allanol neu drydydd parti y cyfeirir atynt yn y llyfr hwn, ac nid yw’n gwarantu bod unrhyw gynnwys ar wefannau o’r fath yn, neu y bydd yn parhau i fod, yn gywir neu’n briodol.
Cynnwys
Cydnabyddiaethau
Ffigurau a Thablau
Rhagair
Cyflwyniad  
I bwy mae’r llyfr hwn?
Yr hyn na fydd yn cael ei drafod
Diffiniadau
Sut mae defnyddio’r gyfrol hon
Gair am ieithwedd y gyfrol
Pennod 1: Cyfieithu yn y Gymru Gyfoes
Hanes byr datblygiad y sector cyfieithu yng Nghymru
Cyfieithu, cydraddoldeb ieithyddol a hyrwyddo’r iaith
Cyfieithu i’r Saesneg: Rhai ystyriaethau cymdeithasol a gwleidyddol
Crynhoi
Pennod 2: Pwy yw’r Cyfieithydd a Beth Mae’n ei Wneud?
Sgiliau a Gwybodaeth Cyfieithwyr Proffesiynol
Dwyieithrwydd, cyfieithu a pham nad yw dwyieithrwydd yn unig yn ddigon
Crynhoi
Pennod 3: Theori: Sylfeini Ymarfer Gwybodus
Pam theori?
Synnwyr am Synnwyr ac Osgoi Ymyrraeth yr Iaith Ffynhonnell
Swyddogaetholdeb a Phwysigrwydd y Defnyddiwr
Cyfystyriaeth ac Adlewyrchu’r Ystyr
Crynhoi
Pennod 4: Darllen er mwyn Cyfieithu
Darllen a chyfieithu
Darllen Cychwynnol: Dadansoddi’r Testun i’w Gyfieithu
Darllen Cychwynnol: Rhoi’r Fframwaith Dadansoddi Testunau ar Waith
Darllen am Ystyr wrth Gyfieithu
Crynhoi
Pennod 5: Technegau wrth Lunio Cyfieithiadau
Diffinio Techneg
Yr Uned Leiaf i’w Chyfieithu
Y Broses Gyfieithu Ddiofyn: Cyfieithu Llythrennol
Y Technegau Cyfieithu Eraill: Sicrhau Cywirdeb a Naturioldeb y Testun
Cyfieithu Lletchwith, Cymraeg Swnllyd a Thechnegau Cyfieithu
Dulliau o Daclo Brawddegau Anodd
Dadansoddi Cyfieithiadau: Egwyddorion Cyfieithu Da
Crynhoi
Pennod 6: Sgiliau Testunol, Adolygu Gwaith ac Ansawdd Testunau
Cyflwyniad i Destunoldeb
Blaengyfeirio ac Ôl-gyfeirio
Diffyg Dilyniant Rhesymegol
Cydgysylltu
Testunoldeb a Thynnu Popeth Ynghyd: O Destun Gwachul i Destun Gwych
Golygu, Adolygu, Prawf Ddarllen: Gwirio eich Gwaith fel Cyfanwaith Gorffenedig
Defnyddioldeb Testunau
Canllawiau Cymraeg Clir
Crynhoi
Pennod 7: Technoleg Cyfieithu a Chyfieithu Proffesiynol
Systemau Cyfieithu Peirianyddol
Systemau Cof Cyfieithu
Crynhoi
Pennod 8: Clymu’r Edafedd Ynghyd: Cyfieithu Da, Cyfieithu Sâl
Themâu Adroddiadau Prif Arholwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
Gair i Gloi
Darllen pellach
Llyfryddiaeth
CYDNABYDDIAETHAU
Mawr yw fy niolch i lawer am y cymorth hael a dderbyniais wrth ysgrifennu’r gyfrol hon.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant am gymorth ariannol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol trwy’r Cynllun Grantiau Bach. Mae’r Coleg wedi cefnogi sawl menter a doethuriaeth ym maes Astudiaethau Cyfieithu, sy’n dangos ymrwymiad amlwg y Coleg i’r proffesiwn.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant hefyd i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru am ei chymorth ariannol hithau a’r gefnogaeth a roddodd i’r gwaith. Dyma ddiolch yn arbennig hefyd i Nia Wyn Jones am y sylwadau manwl ar y deipysgrif.
Hoffwn ddiolch o galon i’r Dr. Jeremy Evas am roi o’i amser, ac yntau ar ganol symud tŷ, i ddarllen y Cyflwyniad a thair pennod yn y deipysgrif. Aeth ati â’i fanylder arferol a gwellwyd y gwaith yn fawr o’i herwydd.
Dyma ddiolch hefyd i Ffion a Glenn am yr anogaeth er i fy amau fy hun yn gyson, ac i Ffion yn enwedig am ei charedigrwydd pan oedd y pwysau i wneud cyfiawnder â’r proffesiwn hwn yn drwm arnaf.
Eiddof i yw pob gwall a saif.
Ffigurau a Thablau
Ffigur 1 Model Cymhwysedd Cyfieithu TransComp
Tabl 1 Fframwaith Cymhwysedd Cyfieithu EMT
Ffigur 2 Model Cymhwysedd Cyfieithu PACTE
Ffigur 3 Proses Gyfieithu Nida
Ffigur 4 Enghraifft o Nida a Taber (1969) o dri cham cyfieithu
Tabl 2 Diffiniad Cyfoes Krein-Kühle o Gyfystyriaeth
Tabl 3 Diffiniad Krein-Kühle o Gyfystyriaeth ag Enghreifftiau
Tabl 4 Enghreifftiau o Wahanol Gyweiriau’r Gymraeg
Tabl 5 Egwyddorion Rheoli Prosiect i Gyfieithwyr
Tabl 6 Dadansoddiad Cychwynnol cyn Cyfieithu: Post Facebook
Tabl 7 Dadansoddiad Cychwynnol cyn Cyfieithu: Cofnodion Cyfarfod
Tabl 8 Dadansoddiad Cychwynnol cyn Cyfieithu: Gwybodaeth Feddygol
Tabl 9 Dadansoddiad Cychwynnol cyn Cyfieithu: Llawlyfr i Blant a Phobl Ifanc
Tabl 10 Dadansoddiad Cychwynnol cyn Cyfieithu: Taflen i Ddarpar Fyfyrwyr
Tabl 11 Mathau o Ystyr ar Lefel y Gair
Tabl 12 Mathau o Ystyr ar Lefel y Frawddeg
Ffigur 5 Cyfatebiaeth rhwng Unedau Ystyr mewn Dwy Iaith
Ffigur 6 Enghraifft arall o Gyfatebiaeth Unedau Ystyr rhwng Dwy Iaith
Tabl 13 Enghreifftiau o Oreiriogrwydd
Tabl 14 Cymhariaeth o Unedau Ystyr wrth Gyfieithu
Ffigur 7 Cyfieithu Llythrennol Addas
Ffigur 8 Dadansoddiad Manylach o’r Unedau Cyfieithu wrth Gyfieithu’n Llythrennol
Tabl 15 Canlyniad Cyfieithu Llythrennol pan na fo Hynny’n Addas
Tabl 16 Y Technegau Cyfieithu Safonol
Tabl 17 Osgoi Cymraeg Gwael trwy Ddefnyddio’r Dechneg Gyfieithu Briodol (A)
Tabl 18 Osgoi Cymraeg Gwael trwy Ddefnyddio’r Dechneg Gyfieithu Briodol (B)
Tabl 19 Osgoi Cymraeg Gwael trwy Ddefnyddio’r Dechneg Gyfieithu Briodol (C)
Tabl 20 Techneg ar gyfer Taclo Brawddeg Anodd
Tabl 21 Dyfeisiau Cydlynrwydd Testunol yn dilyn Halliday a Hasan
Tabl 22 Cysyllteiriau ar gyfer Cydlynrwydd Testunol
Ffigur 9 Cymharu Dau Destun mewn Perthynas ag Elfennau o Destunoldeb
Ffigur 10 Risg a Dwysedd y Broses Adolygu
Ffigur 11 Gwahanol Gamau’r Broses Adolygu
Tabl 23 Egwyddorion Ôl-olygu Effeithiol
Ffigur 12 Rhyngwyneb System Cof Cyfieithu Memsource
Tabl 24 Enghraifft o Gyfatebiaeth Lawn a Rhannol o System Cof Cyfieithu
Tabl 25 Prif Themâu’r Prif Arholwr: Amlder fesul Blwyddyn ers 2012
RHAGAIR
Wrth imi ysgrifennu hyn o ragair, mae cannoedd o bobl ym mhob cwr o Gymru yn gweithio’n ddiwyd i droi dogfennau Saesneg yn rhai Cymraeg, a nifer lai yn troi dogfennau Cymraeg yn rhai Saesneg. Wrth wneud hynny maent yn cyfleu ystyron y naill iaith yn y llall gan ddefnyddio ystod o sgiliau gwahanol ac yn manteisio ar nifer o strategaethau a thechnegau. Disgrifiad twyllodrus o syml yw hwn serch hynny o waith sydd ag effaith gymdeithasol eang. Trwy wneud y gwaith hwn, mae’r uchelgais bod pobl yng Nghymru yn cael byw trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gwireddu. Sicrhau cydraddoldeb ieithyddol y mae cyfieithwyr felly, a da o beth fyddai inni gydnabod cyfraniad cyfieithwyr proffesiynol i’n gallu i’n galw ein hunain yn gymdeithas ddwyieithog. Ond beth yw’r sgiliau hyn? Pa dechnegau a strategaethau a ddefnyddir? Er bod cannoedd o gyfieithwyr yn gweithio rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, er gwaethaf pwysigrwydd cyfieithu i’n gallu i wireddu nodau polisïau ieithyddol, er gwaethaf y ffaith bod cyfieithwyr yng Nghymru yn ysgrifennu miliynau o eiriau Cymraeg bob mis, ac er gwaethaf yr angen amlwg am gyfieithwyr medrus oherwydd hynny, prin yw’r deunydd sydd ar gael i gyfieithwyr i’w rhoi ar ben ffordd ac egluro hanfodion y gwaith iddynt yn Gymraeg. Mae peth wmbreth o lyfrau o’r fath yn y Saesneg, ond nid ydynt yn rhoi fawr o sylw i gyfieithu yng nghyddestun ieithoedd lleiafrifol ac nid yw’r Gymraeg yn cael sylw bron byth. Dau brif nod sydd i’r gyfrol hon felly. Y cyntaf yw cyflwyno’r sgiliau, y strategaethau a’r technegau hyn i gyfieithwyr newydd i’r maes. Y gobaith yw y bydd y penodau sy’n dilyn yn eu cynorthwyo i gymryd golwg fwy strategol dros eu gwaith, ac yn eu helpu i allu dadansoddi testunau cyn eu cyfieithu, darllen yn bwrpasol i ganfod ystyron, ac i gyfleu’r ystyron hyn wedyn yn fedrus ac mewn modd dealladwy ac eglur sy’n cadw urddas yr iaith. Yr edefyn a red trwy gydol y gwaith yw mai cyfathrebu â darllenwyr o gig a gwaed y mae cyfieithwyr. I’r perwyl hwn, mae pennod gyfan am ddarllen er cyfieithu, pennod gyfan am y technegau safonol y gellid eu defnyddio i gyfleu ystyron mewn modd naturiol, a phennod gyfan arall am wirio’r testun gorffenedig i sicrhau ansawdd ac i sicrhau ei fod yn addas i’w gynulleidfa. Ymchwil gymdeithasol am y defnydd o’r Gymraeg ac o wasanaethau Cymraeg sydd wedi sbarduno’r ail nod. Mae ymchwil yn dangos bod nifer fawr o siaradwyr y Gymraeg yn dewis defnyddio gwasanaethau yn y Saesneg yn lle’r Gymraeg, yn y gred y bydd y Gymraeg yn chwithig ac yn gymhleth. Mae sawl rheswm am y canfyddiad hwn ac mae sawl peth yn achosi’r ffenomen hon. Fodd bynnag, nid y lleiaf yn eu plith yw cyfieithu anfedrus, gorlythrennol a chyfieithu amhriodol o ffurfiol. Trwy ddarllen yn iawn cyn cyfieithu, llunio cyfieithiadau ar sail yr ystyr ac nid ar ffurfiau arwynebol yr iaith ffynhonnell, a thrwy feddwl am y defnyddiwr terfynol yn gyffredinol, mae modd gwella’r sefyllfa hon. Er mwyn cynorthwyo cyfieithwyr i wneud hynny, mae trafod helaeth yn y gyfrol hon ar y strategaethau a’r technegau i wneud hynny, ac er mai cyfieithwyr newydd a dibrofiad yw’r gynulleidfa, y gobaith yw y bydd y gyfrol hon o ddiddordeb i bawb sydd am weld gwell cyfieithu rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Ar wahân i fod yn llusern ar daith cyfieithwyr newydd ac yn gymorth i fyfyrwyr, prin bod modd imi wadu trydydd nod hefyd. Prin yw’r gydnabyddiaeth y mae cyfieithwyr yn ei derbyn am eu gwaith. Mae’n wir bod lle i wella ond mae’n wir hefyd bod y maes yn gyforiog o weithwyr proffesiynol medrus ac ymroddedig sy’n gweithio i’r safonau proffesiynol uchaf. Dyma ymgais hefyd felly i egluro’n gwaith

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents