Sylfeini Cyfieithu Testun
277 pages
Welsh

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Sylfeini Cyfieithu Testun , livre ebook

-

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
277 pages
Welsh
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Mae’r gyfrol hon yn tywys cyfieithwyr newydd a’r rhai sydd â’u bryd ar weithio yn y maes trwy brif egwyddorion llunio cyfieithiad da. Mae’n trafod gwaith cyfieithwyr o safbwynt diogelu lle’r iaith yn y gymdeithas, yn egluro beth sydd ei angen ar ddarpar gyfieithwyr o ran sgiliau a gwybodaeth, ac yn dangos y gwych a’r gwachul er mwyn cynorthwyo cyfieithwyr i lunio gwaith da heb y llediaith a’r cyfieithu lletchwith. Mae’n taflu goleuni ar yr amryfal dechnegau y mae cyfieithwyr cymwys yn eu defnyddio, o’r broses ddarllen hyd at y broses adolygu, ac mae’n gwneud hynny trwy enghreifftiau o gyfieithiadau go iawn a gyhoeddwyd. Mae’n trafod cyfieithu peirianyddol, dyfodol y proffesiwn a sut i wneud y defnydd gorau o’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae ymchwil academaidd hefyd yn elfen gref o’r gwaith, ac mae’r cyngor a’r canllawiau yn seiliedig ar yr ysgolheictod trylwyraf ynghyd â phrofiad yr awdur o’r byd cyfieithu proffesiynol.


Cydnabyddiaethau
Ffigurau a Thablau
Rhagair
Cyflwyniad
I bwy mae’r llyfr hwn?
Yr hyn na fydd yn cael ei drafod
Diffiniadau
Sut mae defnyddio’r gyfrol hon
Gair am ieithwedd y gyfrol
Pennod 1: Cyfieithu yn y Gymru Gyfoes
Pennod 2: Pwy yw’r Cyfieithydd a Beth Mae’n ei Wneud?
Pennod 3: Theori: Sylfeini Ymarfer Gwybodus
Pennod 4: Darllen Er Mwyn Cyfieithu 81
Pennod 5: Strategaethau wrth Lunio Cyfieithiadau
Pennod 6: Sgiliau Testunol, Adolygu Gwaith ac Ansawdd Testunau
Pennod 7: Technoleg Cyfieithu a Chyfieithu Proffesiynol
Pennod 8: Clymu’r edafedd ynghyd: Cyfieithu Da, Cyfieithu Sâl
Gair i gloi
Darllen pellach
Llyfryddiaeth
Mynegai

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 novembre 2021
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786838162
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 7 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,1500€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Sylfeini Cyfeithu Testun
Sylfeini Cyfieithu Testun.indd 1 09/11/21 6:11 PMSylfeini Cyfieithu Testun
Cyflwyniad i Gyfieithu Proffesiynol
Ben Screen
GWASG PRIFYSGOL CYMRU
2021
Sylfeini Cyfieithu Testun.indd 3 09/11/21 6:11 PMHawlfraint © Ben Screen, 2021
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o’r cyhoeddiad hwn na’i gadw mewn
cyfundrefn adferadwy na’i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng
electronig, mecanyddol, ffotogopio, recordio, nac fel arall, heb ganiatâd ymlaen llaw gan
Wasg Prifysgol Cymru, Cofrestrfa’r Brifysgol, Rhodfa’r Brenin Edward VII, Caerdydd CF10
3NS.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalogio’r gyfrol hon ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-815-5
e-ISBN 978-1-78683-816-2
Datganwyd gan Ben Screen ei hawl foesol i’w gydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag
adrannau 77 a 78 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Cydnabyddir cymorth ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Chymdeithas
Cyfieithwyr Cymru ar gyfer y cyhoeddiad hwn.
Sylfeini Cyfieithu Testun.indd 4 09/11/21 6:11 PMCynnwys
Cydnabyddiaethau vii
Ffigurau a Thablau ix
Rhagair 1
Cyflwyniad 3
Ibwymae’rllyfrhwn? 3
Yrhynnafyddyncaeleidrafod 5
Diffiniadau 6
Sutmaedefnyddio’rgyfrolhon 7
Gairamieithweddygyfrol 7
Pennod 1: Cyfieithu yn y Gymru Gyfoes 9
HanesbyrdatblygiadysectorcyfieithuyngNghymru 9
Cyfieithu,cydraddoldebieithyddolahyrwyddo’riaith 12
Cyfieithui’rSaesneg:Rhaiystyriaethaucymdeithasolagwleidyddol 14
Crynhoi 15
Pennod 2: Pwy yw’r Cyfieithydd a Beth Mae’n ei Wneud? 17
SgiliauaGwybodaethCyfieithwyrProffesiynol 17
Dwyieithrwy dd,cyfieithuaphamnadywdwyieithrwyddynunig yn ddigon 26
Crynhoi 28
Pennod 3: Theori: Sylfeini Ymarfer Gwybodus 33
Pamtheori? 34
SynnwyramSynnwyracOsgoiYmyrraethyrIaithFfynhonnell 36
SwyddogaetholdebaPhwysigrwyddyDefnyddiwr 44
CyfystyriaethacAdlewyrchu’rYstyr 48
Crynhoi 58
Pennod 4: Darllen er mwyn Cyfieithu 61
Darllenachyfieithu 61
Cychwynnol:Dadansoddi’rTestuni’wGyfieithu 62
DarllenCychRhoi’rFframwaithDadansoddi
TestunauarWaith 73
DarllenamYstyrwrthGyfieithu 82
Crynhoi 103
Sylfeini Cyfieithu Testun.indd 5 09/11/21 6:11 PMSylfeini Cyfeithu Testun
Pennod 5: Technegau wrth Lunio Cyfieithiadau 109
DiffinioTechneg 109
YrUnedLeiaf i’wChyfieithu 110
YBrosesGyfieithuDdiofyn:CyfieithuLlythrennol 114
YTechnegauCyfieithuEraill:SicrhauCywirdeb
aNaturioldebyTestun 118
CyfieithuLletchwith,CymraegSwnllydaThechnegauCyfieithu 136
DulliauoDacloBrawddegauAnodd 140
DadansoddiCyfieithiadau:EgwyddorionCyfieithuDa 143
Crynhoi 151
Pennod 6: Sgiliau Testunol, Adolygu Gwaith ac Ansawdd
Testunau 155
CyflwyniadiDestunoldeb 155
BlaengyfeirioacÔl-gyfeirio 162
DiffygDilyniantRhesymegol 163
Cydgysylltu 163
TestunoldebaThynnuPopethYnghyd:
ODestunGwachuliDestunGwych 166
Golygu,Adolygu,Prawf Ddarllen:GwirioeichGwaithfel
CyfanwaithGorffenedig 169
DefnyddioldebTestunau 180
CanllawiauCymraegClir 186
Crynhoi 188
Pennod 7: Technoleg Cyfieithu a Chyfieithu Proffesiynol 193
SystemauCyfieithuPeirianyddol 193
Cof Cyfieithu 216
Crynhoi 221
Pennod 8: Clymu’r Edafedd Ynghyd:
Cyfieithu Da, Cyfieithu Sâl 227
ThemâuAdroddiadauPrif ArholwrCymdeithas
CyfieithwyrCymru 230
Gair i Gloi 241
Darllen pellach 245
Llyfryddiaeth 251
Mynegai 263
vi
Sylfeini Cyfieithu Testun.indd 6 09/11/21 6:11 PMCYDNABYDDIAETHAU
Mawr yw fy niolch i lawer am y cymorth hael a dderbyniais wrth ysgrifennu’r gyfrol hon.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant am gymorth ariannol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
trwy’r Cynllun Grantiau Bach. Mae’r Coleg wedi cefnogi sawl menter a doethuriaeth ym
maes Astudiaethau Cyfieithu, sy’n dangos ymrwymiad amlwg y Coleg i’r proffesiwn.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant hefyd i Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru am ei chymorth
ariannol hithau a’r gefnogaeth a roddodd i’r gwaith. Dyma ddiolch yn arbennig hefyd i
Nia Wyn Jones am y sylwadau manwl ar y deipysgrif.
Hoffwn ddiolch o galon i’r Dr. Jeremy Evas am roi o’i amser, ac yntau ar ganol symud
tŷ, i ddarllen y Cyflwyniad a thair pennod yn y deipysgrif. Aeth ati â’i fanylder arferol a
gwellwyd y gwaith yn fawr o’i herwydd.
Dyma ddiolch hefyd i Ffion a Glenn am yr anogaeth er i fy amau fy hun yn gyson, ac i
Ffion yn enwedig am ei charedigrwydd pan oedd y pwysau i wneud cyfiawnder â’r
proffesiwn hwn yn drwm arnaf.
Eiddof i yw pob gwall a saif.
Sylfeini Cyfieithu Testun.indd 7 09/11/21 6:11 PMFfgurau a Thablau
Ffigur 1 Model Cymhwysedd Cyfieithu TransComp 19
Tabl 1 Fframwaith Cyfieithu EMT 22
Ffigur 2 Model Cyfieithu PACTE 253 Proses Gyfieithu Nida 50
Ffigur 4 Enghraifft o Nida a Taber (1969) o dri cham
cyfieithu 51
Tabl 2 Diffiniad Cyfoes Krein-Kühle o Gyfystyriaeth 55
Tabl 3 Krein-Kühle o Gyfystyriaeth ag Enghreifftiau 56
Tabl 4 Enghreifftiau o Wahanol Gyweiriau’r Gymraeg 67
Tabl 5 Egwyddorion Rheoli Prosiect i Gyfieithwyr 72
Tabl 6 Dadansoddiad Cychwynnol cyn Cyfieithu: Post Facebook 73
Tabl 7 Cyccyn Cofnodion Cyfarfod 75
Tabl 8 Dadansoddiad Cychwynnol cyn Cyfieithu: Gwybodaeth Feddygol 77
Tabl 9 Cyccyn
Llawlyfr i Blant a Phobl Ifanc 78
Tabl 10 Dadansoddiad Cychwynnol cyn Cyfieithu:
Taflen i Ddarpar Fyfyrwyr 79
Tabl 11 Mathau o Ystyr ar Lefel y Gair 102
Tabl 12 o Ystyr ar Lefel y Frawddeg 103
Ffigur 5 Cyfatebiaeth rhwng Unedau Ystyr mewn
Dwy Iaith 110
Ffigur 6 Enghraifft arall o Gyfatebiaeth Unedau
Ystyr rhwng Dwy Iaith 111
Tabl 13 Enghreifftiau o Oreiriogrwydd 113
Tabl 14 Cymhariaeth o Unedau Ystyr wrth Gyfieithu 113
Ffigur 7 Cyfieithu Llythrennol Addas 1158 Dadansoddiad Manylach o’r Unedau
Cyfieithu wrth Gyfieithu’n Llythrennol 115
Tabl 15 Canlyniad Cyfieithu Llythrennol pan na fo Hynny’n Addas 117
Tabl 16 Y Technegau Cyfieithu Safonol 119
Tabl 17 Osgoi Cymraeg Gwael trwy Ddefnyddio’r
Dechneg Gyfieithu Briodol (A) 138
Tabl 18 Osgoi Cymraeg Gwael trwy Ddefnyddio’r
Dechneg Gyfieithu Briodol (B) 139
Tabl 19 Osgoi Cymraeg Gwael trwy Ddefnyddio’r
Dechneg Gyfieithu Briodol (C) 140
Tabl 20 Techneg ar gyfer Taclo Brawddeg Anodd 142
Sylfeini Cyfieithu Testun.indd 9 09/11/21 6:11 PMSylfeini Cyfeithu Testun
Tabl 21 Dyfeisiau Cydlynrwydd Testunol yn dilyn
Halliday a Hasan 164
Tabl 22 Cysyllteiriau ar gyfer Cydlynrwydd Testunol 164
Ffigur 9 Cymharu Dau Destun mewn Perthynas ag
Elfennau o Destunoldeb 167
Ffigur 10 Risg a Dwysedd y Broses Adolygu 17711 Gwahanol Gamau’r 178
Tabl 23 Egwyddorion Ôl-olygu Effeithiol 208
Ffigur 12 Rhyngwyneb System Cof Cyfieithu Memsource 217
Tabl 24 Enghraifft o Gyfatebiaeth Lawn a Rhannol o
System Cof Cyfieithu 218
Tabl 25 Prif Themâu’r Prif Arholwr: Amlder fesul Blwyddyn ers 2012 228
x
Sylfeini Cyfieithu Testun.indd 10 09/11/21 6:11 PMRHAGAIR
Wrth imi ysgrifennu hyn o ragair, mae cannoedd o bobl ym mhob cwr o Gymru yn
gweithio’n ddiwyd i droi dogfennau Saesneg yn rhai Cymraeg, a nifer lai yn troi dogfennau
Cymraeg yn rhai Saesneg. Wrth wneud hynny maent yn cyfleu ystyron y naill iaith yn y llall
gan ddefnyddio ystod o sgiliau gwahanol ac yn manteisio ar nifer o strategaethau a
thechnegau. Disgrifiad twyllodrus o syml yw hwn serch hynny o waith sydd ag effaith
gymdeithasol eang. Trwy wneud y gwaith hwn, mae’r uchelgais bod pobl yng Nghymru yn
cael byw trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gwireddu. Sicrhau cydraddoldeb ieithyddol y
mae cyfieithwyr felly, a da o beth fyddai inni gydnabod cyfraniad cyfieithwyr proffesiynol
i’n gallu i’n galw ein hunain yn gymdeithas ddwyieithog. Ond beth yw’r sgiliau hyn? Pa
dechnegau a strategaethau a ddefnyddir? Er bod cannoedd o gyfieithwyr yn gweithio
rhwng y Gymraeg a’r Saesneg, er gwaethaf pwysigrwydd cyfieithu i’n gallu i wireddu
nodau polisïau ieithyddol, er gwaethaf y ffaith bod cyfieithwyr yng Nghymru yn
ysgrifennu miliynau o eiriau Cymraeg bob mis, ac er gwaethaf yr angen amlwg am
gyfieithwyr medrus oherwydd hynny, prin yw’r deunydd sydd ar gael i gyfieithwyr i’w rhoi
ar ben ffordd ac egluro hanfodion y gwaith iddynt yn Gymraeg. Mae peth wmbreth o
lyfrau o’r fath yn y Saesneg, ond nid ydynt yn rhoi fawr o sylw i gyfieithu yng
nghyddestun ieithoedd lleiafrifol ac nid yw’r Gymraeg yn cael sylw bron byth. Dau brif nod
sydd i’r gyfrol hon felly. Y cyntaf yw cyflwyno’r sgiliau, y strategaethau a’r technegau hyn i
gyfieithwyr newydd i’r maes. Y gobaith yw y bydd y penodau sy’n dilyn yn eu cynorthwyo
i gymryd golwg fwy strategol dros eu gwaith, ac yn eu helpu i allu dadansoddi testunau
cyn eu cyfieithu, darllen yn bwrpasol i ganfod ystyron, ac i gyfleu’r ystyron hyn wedyn yn
fedrus ac mewn modd dealladwy ac eglur sy’n cadw urddas yr iaith. Yr edefyn a red trwy
gydol y gwaith yw mai cyfathrebu â darllenwyr o gig a gwaed y mae cyfieithwyr. I’r perwyl
hwn, mae pennod gyfan am ddarllen er cyfieithu, pennod gyfan am y technegau safonol y
gellid eu defnyddio i gyfleu ystyron mewn modd naturiol, a phennod gyfan arall am
wirio’r testun gorffenedig i sicrhau ansawdd ac i sicrhau ei fod yn addas i’w gynulleidfa.
Ymchwil gymdeithasol am y defnydd o’r Gymraeg ac o wasanaethau Cymraeg sydd wedi
sbarduno’r ail nod. Mae ymchwil yn dangos bod nifer fawr o siaradwyr y Gymraeg yn
dewis defnyddio gwasanaethau yn y Saesneg yn lle’r Gymraeg, yn y gred y bydd y
Gymraeg yn chwithig ac yn gymhleth. Mae sawl rheswm am y canfyddiad hwn ac mae
sawl peth yn achosi’r ffenomen hon. Fodd bynnag, nid y lleiaf yn eu plith yw cyfieithu
anfedrus, gorlythrennol a chyfieithu amhriodol o ffurfiol. Trwy ddarllen yn iawn cyn
cyfieithu, llunio cyfieithiadau ar sail yr ystyr ac nid ar ffurfiau arwynebol yr iaith
Sylfeini Cyfieithu Testun.indd 1 09/11/21 6:11 PMSylfeini Cyfeithu Testun
ffynhonnell, a thrwy feddwl am y defnyddiwr terfynol yn gyffredinol, mae modd gwella’r
sefyllfa hon. Er mwyn cynorthwyo cyfieithwyr i wneud hynny, mae

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents