Her a Hawl Cyfieithu Dramâu
157 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris

Her a Hawl Cyfieithu Dramâu , livre ebook

Découvre YouScribe en t'inscrivant gratuitement

Je m'inscris
Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus
157 pages
Welsh

Vous pourrez modifier la taille du texte de cet ouvrage

Obtenez un accès à la bibliothèque pour le consulter en ligne
En savoir plus

Description

Dyma’r astudiaeth gyntaf o waith cyfieithu un o gewri’r ddrama, sef Saunders Lewis. Mae ei gyfieithiadau o weithiau’r dramodwyr Ffrangeg Samuel Beckett a Molière yn datgelu agwedd newydd a dadlengar ar y llenor a adwaenir fel dramodydd, nofelydd a gwleidydd yn hytrach na fel cyfieithydd. Ystyrir yma hanes cyfieithu ac addasu yn y theatr Gymraeg a’r modd y maent wedi gwneud cyfraniad pwysig i ddatblygiad y ddrama Gymraeg; edrychir hefyd ar bwysigrwydd Ewrop, a Ffrainc yn benodol, i Saunders ac arwyddocâd hyn fel sail i’w waith cyfieithu. Trafodir y modd y mae ei ddulliau cyfieithu yn adlewyrchu ei ddatblygiadau personol a phroffesiynol dros gyfnod o ddeugain mlynedd, a beth yw rôl y cyfieithydd ym myd y theatr – pa hawl sydd gan gyfieithydd i addasu darn llenyddol, er enghraifft, a ble mae gosod ffin rhwng cyfieithu, addasu a chreu testun newydd, ac i ba graddau felly y mae i’r cyfieithiad newydd werth celfyddydol gwreiddiol ynddi ei hun.
Rhagymadrodd
1. Cyflwyniad
2. Datblygiad Cyfieithu Dramâu yng Nghymru
3. Saunders Lewis ac Ewrop
4. Cyfieithu Llyfr a Chyfieithu i'r Llwyfan
5. Cyfieithu'r Clasurol
6. Cyfieithu'r Abswrd
Casgliad

Sujets

Informations

Publié par
Date de parution 15 juillet 2017
Nombre de lectures 0
EAN13 9781786830968
Langue Welsh
Poids de l'ouvrage 1 Mo

Informations légales : prix de location à la page 0,0466€. Cette information est donnée uniquement à titre indicatif conformément à la législation en vigueur.

Extrait

Her a Hawl Cyfieithu Dram u
Y MEDDWL A R DYCHYMYG CYMREIG
Golygydd Cyffredinol: Gerwyn Wiliams
Dan olygyddiaeth gyffredinol John Rowlands
1. M. Wynn Thomas (gol.), DiFfinio Dwy Lenyddiaeth Cymru (1995)
2. Gerwyn Wiliams, Tir Neb (1996) (Llyfr y Flwyddyn 1997; Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
3. Paul Birt, Cerddi Alltudiaeth (1997)
4. E. G. Millward, Yr Arwrgerdd Gymraeg (1998)
5. Jane Aaron, Pur fel y Dur (1998) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
6. Grahame Davies, Sefyll yn y Bwlch (1999)
7. John Rowlands (gol.), Y S r yn eu Graddau (2000)
8. Jerry Hunter, Soffestri r Saeson (2000) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2001)
9. M. Wynn Thomas (gol.), Gweld S r (2001)
10. Angharad Price, Rhwng Gwyn a Du (2002)
11. Jason Walford Davies, Gororau r Iaith (2003) (Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2004)
12. Roger Owen, Ar Wasgar (2003)
13. T. Robin Chapman, Meibion Afradlon a Chymeriadau Eraill (2004)
14. Simon Brooks, O Dan Lygaid y Gestapo (2004) (Rhestr Hir Llyfr y Flwyddyn 2005)
15. Gerwyn Wiliams, Tir Newydd (2005)
16. Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880-1940 (2006)
17. Owen Thomas (gol.), Llenyddiaeth mewn Theori (2006)
18. Sioned Puw Rowlands, Hwyaid, Cwningod a Sgwarnogod (2006)
19. Tudur Hallam, Canon Ein Ll n (2007) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
20. Enid Jones, FfugLen (2008) (Enillydd Gwobr Goffa Ellis Griffith)
Dan olygyddiaeth gyffredinol Gerwyn Wiliams
21. Eleri Hedd James, Casglu Darnau r Jig-so (2009)
22. Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd (2012)
23. Kate Woodward, Cleddyf ym Mrwydr yr Iaith? (2013)
24. Rhiannon Marks, Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr (2013)
25. Gethin Matthews, Creithiau (2016)
26. Elain Price, Nid Sianel Gyffredin Mohoni! (2016)
Y MEDDWL A R DYCHYMYG CYMREIG
Her a Hawl Cyfieithu Dram u
Saunders Lewis, Samuel Beckett a Moli re
Rhianedd Jewell

GWASG PRIFYSGOL CYMRU 2017 -->

GWASG PRIFYSGOL CYMRU 2017
Hawlfraint Rhianedd Jewell, 2017
Cedwir pob hawl. Ni cheir atgynhyrchu unrhyw ran o r cyhoeddiad hwn na i gadw mewn cyfundrefn adferadwy na i drosglwyddo mewn unrhyw ddull na thrwy unrhyw gyfrwng electronig, mecanyddol, ffotogop o, recordio, nac fel arall, heb ganiat d ymlaen llaw gan Wasg Prifysgol Cymru, 10 Rhodfa Columbus, Maes Brigant n, Caerdydd, CF10 4UP.
www.gwasgprifysgolcymru.org
Mae cofnod catalog i r llyfr hwn ar gael gan y Llyfrgell Brydeinig.
ISBN 978-1-78683-094-4
e-ISBN 978-1-78683-096-8
Datganwyd gan Rhianedd Jewell hawl foesol i w chydnabod yn awdur ar y gwaith hwn yn unol ag adrannau 77 a 79 Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Llun y clawr: Saunders Lewis c. 1971. Ffotograff gan Julian Sheppard. Hawlfraint Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Nid cyfrifoldeb y cyhoeddwr yw hirhoedledd neu gywirdeb URL ar gyfer unrhyw wefannau allanol neu ryngrwyd trydydd-parti a gyfeirir atynt yn y cyhoeddiad hwn; ac ni all y cyhoeddwr warantu fod, nac y bydd, holl gynnwys y cyfryw wefannau yn parhau'n gywir neu'n addas.
Cynnwys
Rhagarweiniad a Diolchiadau
1. Cyflwyniad
2. Datblygiad Cyfieithu Dram u yng Nghymru
3. Saunders Lewis ac Ewrop
4. Cyfieithu Llyfr a Chyfieithu i r Llwyfan
5. Cyfieithu r Clasurol
6. Cyfieithu r Abs rd
7. Casgliad
Rhagarweiniad a Diolchiadau
Mae Godot wedi ei weld fel trosiad am sawl dyfodol dros y gorwel, rhywbeth yr ydym ni i gyd yn aros amdano ac nad yw n dod, ac y mae r peth hwnnw, y Godot anweledig, yn wahanol i bob un ohonom sy n darllen neu n gwylio r ddrama bwerus hon. Ys dywed Alec Reid:
Our discussion of Godot has included bus stops, airport lounges, love letters and hospitals - not one of which is mentioned in the play... There is, for example, the cricketing enthusiast who likens Godot to waiting outside the Tavern at Lords for it to open - which it won t because the licence has been revoked... One of the convicts in California said simply, Godot is the outside . 1
Ac mewn ffordd, Godot personol i mi am gyfnod hir oedd gweld y llyfr hwn mewn print.
Mae fy niddordeb mewn cyfieithu llenyddol yn deillio o r cyfnod cyn imi ddewis prifysgol. Mewn paratoad ar gyfer fy nghyfweliad Ffrangeg yng Ngholeg St Anne s, Rhydychen, rhoddwyd dau destun imi eu hastudio gan yr Athro Patrick McGuinness, y naill yn y Saesneg a r llall yn y Ffrangeg. Cyfieithiad o r un gwaith oeddent, a gofynnodd imi gymharu r ddwy fersiwn a phenderfynu pa un a ysgrifennwyd yn gyntaf. Cyfansoddiadau gan Beckett oedd y rhain, ac felly cwestiwn heriol iawn oedd hwn oherwydd, fel y gwn erbyn hyn, cyfieithodd Beckett ei weithiau ei hun, ac mewn ffordd, darnau gwreiddiol oedd y fersiwn Ffrangeg a r Saesneg. Nid wyf i n cofio pa un a ddewisais fel y gwreiddiol, ond cofiaf imi newid fy meddwl yn ystod y drafodaeth, a dyma a gyneuodd fy chwilfrydedd am bosibiliadau cyfieithu. Bedair blynedd yn ddiweddarach, ar ddechrau fy mlwyddyn olaf yng Ngholeg St Anne s, cyflwynodd Patrick y cysyniad imi eto, pan ddywedodd wrthyf fod Saunders Lewis wedi llunio cyfieithiad Cymraeg o ddrama enwocaf Beckett, En attendant Godot . Pwnc fy nhraethawd estynedig, felly, oedd y cyfieithiad hwn, a dyma sail y bennod Cyfieithu r Abs rd , ac, mewn ffordd, holl waith y gyfrol hon. Yr wyf yn hynod ddiolchgar i Patrick, nid yn unig am fy nhywys i astudio maes a ddylanwadodd arnaf yn sylweddol, ond am ei arweiniad academaidd a i gyfeillgarwch yn ystod fy nghyfnod yn Rhydychen.
Gadewais y maes hwn am gyfnod wedyn, gan imi droi fy sylw at hanner arall fy astudiaethau, sef llenyddiaeth yr Eidal. Ond parhaodd y Gymraeg yn rhan bwysig o m bywyd beunyddiol hyd yn oed ymysg meindyrau breuddwydiol Rhydychen, m trwyn mewn llyfr Eidaleg. Gyda chymorth Ysgoloriaeth Syr John Rhŷs rhoddwyd cyfle imi gyflawni fy noethuriaeth ac i ddysgu gwersi Cymraeg i israddedigion y brifysgol a gwersi Cymraeg i oedolion yn y ganolfan ieithoedd. Yr oedd y Gymraeg yn fy ngalw i n l. Diolchaf yn bennaf i r Athro Thomas Charles Edwards am ei gefnogaeth barhaol ac am gynnig y cyfle amhrisiadwy hwnnw imi yn y lle cyntaf.
Yn ddigon rhyfedd, dilynodd fy ngyrfa dros y blynyddoedd canlynol lwybr tebyg i un Saunders Lewis ei hun. Trois yn l at y Gymraeg wedi treulio blynyddoedd yn cloddio i weithiau clasurol awduron Ewropeaidd megis Beckett, Pirandello a Dante, ond nis anghofiais hwy n llwyr, wrth gwrs. Yr oeddwn i n ddigon ffodus wedyn i ennill swydd ym Mhrifysgol Abertawe am flwyddyn, lle y cefais y cyfle cyntaf i ddychwelyd at y prosiect hwn a ysgogodd gryn gyffro imi o r cychwyn. Yr oedd arweiniad yr Athro Tudur Hallam yn allweddol bwysig imi yno, a diolchaf iddo am ei gymorth am iddo fy nghynorthwyo i ennill Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis. Mae nawdd Cronfa Goffa Saunders Lewis wedi bod yn hanfodol bwysig imi wrth barhau r gwaith hwn, a diolchaf yn fawr i r ymddiriedolwyr am eu holl gefnogaeth. Diolchaf yn arbennig i Mr Elwyn Jones ac i r Athro M. Wynn Thomas am eu hanogaeth ddi-ffael. Diolch hefyd, wrth gwrs, i Gronfa Syr David Hughes Parry, i Gronfa Athrofa ALlICC ac i Gronfa HEFCW Prifysgol Aberystwyth am eu nawdd.
Symudais wedyn i Aberystwyth lle y dechreuais ar fy swydd gyfredol fel darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn Cymraeg Proffesiynol, ac yma unwaith eto cefais gymorth allweddol ar ffurf cydweithwyr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd. Diolch yn enwedig i Dr Robin Chapman, sydd wedi treulio oriau hir yn darllen drafftiau o r gwaith hwn, ac i Dr Bleddyn Huws, sydd wedi fy mentora dros y pedair blynedd diwethaf. Yr oeddwn hefyd ar stepen drws Llyfrgell Genedlaethol Cymru, cartref trysorfa o lyfrau, llawysgrifau a chofnodion gwerthfawr a chynhwysfawr. Diolchaf yn arbennig i staff y llyfrgell am eu cymorth ar sawl achlysur wrth imi bori drwy bapurau o bob math ac ymhob iaith. Hoffwn hefyd ddiolch i staff archifau r BBC am eu cymorth wrth ddod o hyd i lawysgrifau a recordiadau defnyddiol. Diolch wrth gwrs i Gareth Miles ac i Emyr Humphreys am eu parodrwydd i ateb fy nghwestiynau am Y Ddrama yn Ewrop ac am ddatgelu llawer am y broses o gyfieithu drama. Hoffwn ddiolch hefyd i r Esgob Daniel Mullins am ei gymorth gyda m gwaith ymchwil cynnar.
Diolch i r cyhoeddwyr a r cwmn au canlynol am roddi caniat d imi gynnwys dyfyniadau o u testunau yn y gyfrol hon: S4C am ddyfyniadau o Doctor er ei Waethaf , Gwasg Prifysgol Cymru am ddyfyniadau o weithiau eraill Saunders Lewis, Gwasg Carreg Gwalch am ddyfyniadau o Eli r Galon , cyfieithiad Alwena Williams, Les ditions de Minuit am ddyfyniadau o En attendant Godot a Fin de partie , a Faber & Faber a Grove Atlantic am ddyfyniadau o Waiting for Godot a Happy Days/Oh Les Beaux Jours .
Hoffwn ddiolch yn fawr i olygydd y gyfres hon, yr Athro Gerwyn Wiliams, am ei awgrymiadau, ac i staff Gwasg Prifysgol Cymru am eu cefnogaeth a u gwaith trylwyr. Diolch i Anna Gruffydd am ddarparu copi o i chyfieithiad, Doctor Di-glem . Diolch hefyd i Siwan Jones am ei chefnogaeth ac am ei chaniat d i ddyfynnu o waith gwerthfawr ei thaid, Saunders Lewis.
Mae fy niolch pennaf wrth gwrs yn ddyledus i m teulu: fy mam, Si n, fy nhad, Anthony, fy chwaer, Delyth, a m gŵr, Peter, a chyflwynaf y gyfrol hon iddynt hwy, am eu cefnogaeth a u cariad di-ben-draw. Mae cyfieithu yn cyfleu, yn cyflwyno, yn cop o ac yn creu, ond ni ellir cyfieithu ein cariad ni.
Nodyn
1 Alec Reid, An Act of Love (1968) , yn Ruby Cohn (gol.), Samuel Beckett: Waiting for Godot: A Casebook (Basingstoke: Macmillan Education, 1987), tt. 190-6, 195.
1
Cyflwyniad
Mabwysiadodd Saunders Lewis sawl r l yn ystod ei fywyd: athro, gwleidydd, llenor, dramodydd, ac mae ei gyfraniad i r meysydd amrywiol hyn o bwys sylweddol i ddiwylliant, i iaith ac i lenyddiaeth Cymru. Serch hynny, mae un agwedd ar ei fywyd creadigol sydd heb ei ystyried yn fanwl, ac sydd, i raddau, yn cyfuno holl elfennau eraill ei fywyd personol a phroffesiynol, sef ei waith cyfieithu.
Mewn adolygiad o gyfieithiad Saunders Lewis, Doctor er ei Waethaf , dywedodd Howell Davies:
Dywedodd cyfaill wrthyf unwaith, Gall unrhyw ffwl [ sic ] gyfieithu. [ sic ] Y cwbl a ofy

  • Univers Univers
  • Ebooks Ebooks
  • Livres audio Livres audio
  • Presse Presse
  • Podcasts Podcasts
  • BD BD
  • Documents Documents