PWYLLGOR ARCHWILIO 31.07.06 PWYLLGOR ARCHWILIO, 31.07.06 Yn bresennol: Y Cynghorydd Gwilym O.Williams (Is-Gadeirydd yn cadeirio); Y Cynghorwyr: Tom Ellis, E.H. Griffith, Selwyn Griffiths, Brian Jones, Charles Wyn Jones, Michael Sol Owen a W. Tudor Owen; Peredur Jenkins (Arweinydd Portffolio). Hefyd yn Bresennol: Dilys A Phillips (Pennaeth Gweinyddol a Gwarchod y Cyhoedd), Dafydd Edwards (Pennaeth Cyllid), William E.Jones (Uwch Reolwr Cyllid), Dewi Morgan (Rheolwr Archwilio a Risg), Ffion Madog Evans (Rheolwr Cyllid – Adnoddau a Chorfforaethol), Helen L.Williams (Cyfrifydd Cyfalaf a Rheolaeth), Nia Wyn Jones (Swyddog Pensiynau a Buddsoddiadau) ac Eirian Roberts (Swyddog Pwyllgor). Ymddiheuriadau: Y Cynghorwyr Edward Dogan, Huw P.Hughes, Robert J.Hughes, Henry Jones, Dewi Lewis a Godfrey Northam. 1. COFNODION Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 5 Mehefin 2006 fel rhai cywir. 2. CYFRIFON TERFYNOL 2005/06 Cyflwynwyd – y datganiadau statudol o gyfrifon y Cyngor am 2005/06. Rhoddodd yr Arweinydd Portffolio Cyllid gyflwyniad ar y cefndir perthnasol drwy nodi – (1) y gofynnid i’r pwyllgor hwn fabwysiadu’r datganiadau ariannol statudol ar gyfer eu cyhoeddi a’u harchwilio. (2) mai pwrpas y datganiadau statudol o’r cyfrifon oedd cyfrannu tuag at lywodraethu priodol, gan ddangos sefyllfa ariannol y Cyngor ar ffurf safonol. (3) y rhoddwyd sylw manwl i gronfeydd penodol yn y Gr ŵp Tasg Technegol ...