-
18
pages
-
English
-
Documents
Description
CYNGOR GWYNEDD PWYLLGOR PWYLLGOR ARCHWILIO DYDDIAD 5 MEHEFIN 2006 TEITL ADRODDIAD BLYNYDDOL “PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL” 2005/06 PWRPAS YR ADRODDIAD MYNEGI BARN ARCHWILIO MEWNOL AR YR AMGYLCHEDD REOLAETH GYFFREDINOL O FEWN YR AWDURDOD AWDUR DEWI MORGAN, RHEOLWR ARCHWILIO A RISG GWEITHREDIAD DERBYN YR ADRODDIAD 1. CYFLWYNIAD 1.1 Fel “Pennaeth Archwilio Mewnol” yn unol â gofynion Côd Ymarfer CIPFA ar gyfer Archwilio Mewnol mewn Llywodraeth Leol yn y Deyrnas Unedig, mae gofyn arnaf i ddarparu sicrwydd i’r awdurdod ar y system gyflawn o reolaeth fewnol yn yr awdurdod. Wrth roi fy marn, dylid nodi na all sicrwydd fyth fod yn llwyr. Y mwyaf y gall gwasanaeth archwilio mewnol ei ddarparu i’r Cyngor ydi sicrwydd rhesymol nad oes gwendidau mawr yn y system gyfan o reolaeth fewnol. 1.2 Wrth asesu’r lefel sicrwydd i’w roi, rwyf wedi ystyried pob archwiliad a gafodd ei gynnal yn ystod 2005/06 ac unrhyw weithrediad dilynol parthed archwiliadau o’r cyfnod yma a chyfnodau blaenorol. 2. SICRWYDD CYFFREDINOL 2.1 Yn fy marn i, mae gan Cyngor Gwynedd fframwaith gadarn o reolaeth fewnol er mwyn cynnig sicrwydd rhesymol parthed cyflawniad effeithiol ac effeithlon o amcanion y Cyngor yn, gan fod y camau a gymerwyd gan y Cyngor yn ystod y flwyddyn ariannol i sefydlu a cryfhau rheolaethau mewnol ac i sicrhau fod argymhellion i gywiro gwendidau a adnabuwyd gan Archwilio Mewnol wedi bod yn foddhaol. 2.2 Amodau Er mwyn rhoi fy marn ar ddigonolrwydd y ...
-
Publié par
-
Langue
English